Yn arwain y tim y mae Matthew Rees a fydd yn ennill ei 45 cap dydd Sadwrn gyda Morgan Stoddart yn cadw ei le ar yr asgell i Gymru.
Mae triawd y Scarlets Rhys Priestland, Josh Turnbull a Tavis Knoyle ar y fain car gyfer y daith.
Does dim newid i'r blaenwyr a wynebodd yr Alban yn Murrayfield.
"Mae hwn yn dangos hyder yn ein blaenwyr, maent wedi chwarae'n arbennig o dda fel uned ac ry'n ni'n gobeithio gweld yr un peth unwaith eto yn yr Eidal," meddai Rob Howley.
"Ry'n ni wedi gorfod newud ymysg y cefnwyr, nid yw Jonathan yn barod ar gyfer penwythnos yma ar ol iddo ddioddef anaf i llinyn y gar yn erbyn yr Alban.
"Mae'n wych i fedru dod a Stephen (Jones) i mewn i safle'r maswr. Fe fydd yn edrych ymlaen i ddod yn ol i'r pymtheg agoriadol ar ol y siom yn erbyn Lloegr."
Mae maswr y Scarlets yn gonglfaen ymysg chwaraewyr Cymru ac mae'n ymuno a blaenasgellwr y Gleision Martyn Williams fel un o brif chwaraewyr Cymru. Mae Gareth Thomas ar flaen y restr gyda 100 a Williams tu ol iddo.
Cymru: Lee Byrne; Morgan Stoddart, James Hook, Jamie Roberts, Shane Williams; Stephen Jones, Michael Phillips; Paul James, Matthew Rees (Capt), Craig Mitchell, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton, Ryan Jones
Eilyddion: Richard Hibbard, John Yapp, Jonathan Thomas, Josh Turnbull, Tavis Knoyle, Rhys Priestland, Leigh Halfpenny.
Fe fydd cap rhyngwladol arall i rhanbarth y Scarlets wrth i ganolwr Cwins Caerfyrddin Rheon James ddechrau am y tro cyntaf i Gymru dan 20 yn erbyn yr Eidal nos Wener.
Mae'n ymuno a phump o'i gyd-chwaraewyr rhanbarthol a fydd yn chwarae yn Stadiwm San Vito, Cosenza ar nos Wener 25ain Chwefror, gan gynnwys Liam Williams (Llanelli), Adam Warren (Llanymddyfri), Rob Evans (Scarlets/Cwins), Kirby Myhill (Scarlets/Llanelli) a Steve Shingler (Scarlets) ar y fainc.
Mae'r propiau Rob Evans a Will Taylor yn dod mewn yn lle Rhodri Jones sydd ar ddyletswydd i'r Scarlets.
Dywedodd Darren Edwards hyfforddwr Cymru dan 20: "Dyma'r cyfle olaf i'r chwaraewyr gael amser ar y cae cyn i ni ddewis ein carfan cryfaf i chwarae yn erbyn Iwerddon a Ffrainc. Mae angen i ni rhoi cyfle i gymaint o chwaraewyr a phosib cyn Pencamowriaeth Ieuenctid y Byd."
Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu gem gartref nesaf Cymru dan 20 yn erbyn Iwerddon ar nos Wener 11eg Mawrth cic gyntaf 7.10pm.
£10 yn unig yw pris tocyn ar gyfer Cymru dan 20 v Iwerddon ym Mharc y Scarlets a £5 i blant dan 16. Cysylltwch a'r swyddfa docynnau ar 0871 871 8088 / www.scarlets.co.uk.











