Mae'n gem holl bwysig i'r Scarlets sydd ar hyn o bryd yn y pumed safle ac fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn Caeredin yn sicrhau ei bod yn ol yn y gystadleuaeth am y rowndiau ail gyfle.
Mae'r rhanbarth hefyd yn falch bod yr asgellwr ifanc George North yn barod i ddychwelyd ar ol absenoldeb o 10 wythnos yn dilyn anaf i'w ysgwydd.
Fe fydd dychweliad yr asgellwr 18 mlwydd oed yn ddigon i godi calonnau'r cefnogwyr. Mae'r cefnogwyr wedi mwynhau gwylio datblygiad yr asgellwr ifanc wedi iddo ond ymuno a'r garfan h?n dros yr haf.
Mae Caeredin yn y nawfed safle yn y gynghrair gyda 28 pwynt tra bod y Scarlets yn y pumed safle ar 42 o bwyntiau, pump pwynt sy'n gwahanu'r timau o'r ail safle i'r chweched. Enillodd y Scarlets gornest hanesyddol yn erbyn Caeredin yn Murrayfield ym mis Ionawr - gan ennill yno am y tro cyntaf mewn 7 mlynedd. Mae'r Scarlets wedi ennill y ddwy gem yn erbyn timau Albanaidd y tymor hwn.
Ni does un o'r wyth chwaraewr rhyngwladol ar gael i'r Scarlets gyda Rhys Priestland (maswr), Josh Turnbull (reng ol), Rob McCusker (reng ol) a Tavis Knoyle (mewnwr) yn teithio gyda charfan Cymru i Rhufain dros y penwythnos.
Fe fethodd y canolwr Gareth Maule prawf ffitrwydd bore yma (Mercher) gydag anaf i'w ysgwydd. Mae'r ail reng Jonny Fa'amatuainu ar y restr anafiadau hefyd ynghyd a'r bachwr Emyr Phillips.
Scarlets i wynebu Caeredin 24/02/11, Parc y Scarlets cic gyntaf 1935: Daniel Evans, George North, Regan King, Scott Williams, Joe Ajuwa, Dan Newton, Gareth Davies, Iestyn Thomas (capt), Rhys Lawrence, Rhys Thomas, Lou Reed, Damian Welch, Aaron Shingler, Johnathan Edwards, Ben Morgan.
Eilyddion: Craig Hawkins, Rhodri Jones, Simon Gardiner, Vernon Cooper, Richie Pugh, Martin Roberts, Owen Williams, Lee Rees.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae'r grwp wedi ffocysu ar y pethau syml wythnos yma ac wedi canolbwyntio ar wella ambell beth. Roeddwn i'n hapus gyda gweddill y gem ar wahan i'r darnau gosod.
"Mewn ffordd, mae'r ffaith bod y gem nesaf wedi bod yn beth da i ni oherwydd mae wedi rhoi rhywbeth i'r bois ganolbwytnio arno.
"Mae'n rhaid i'n hymgyrch Cynghrair Magners ddod yn ol ar y trywydd iawn gyda'r gem yma. Mae angen i Gaeredin gymryd momentwm o'r gem ac mae pwyntiau yn hynod o bwysig ar hyn o bryd yn y gynghrair ar hyn o bryd.
"Mae'r chwech uchaf yn dynn iawn. Ry'n ni'n dal i gredu bod cyfle gyda n ii gyrraedd y rowndiau ail gyfle."











