Arweinydd y noson oedd Rupert Moon ac fe fwynhaodd y gwesteion pryd tri chwrs a noson yn llawn adloniant.
Ser sengl y Scarlets oedd yr asgellwr Andy Fenby, y bachwr Rhys Lawrence a'r ail reng Dominic Day.
Cafwyd atebion lliwgar a symudiadau gwych gan y tri ohonynt ac roedd bob un yn ddigon lwcus i ennill dêt o'r noson!
Dywedodd Dominic Day, a anwyd yn Lamphey: "Fi oedd y chwaraewr ola' i gael fy nghroesawu ac felly fe fues it u ol i'r llenni am beth amser a ychwanegodd at y nerfau! Roedd yn lot o hwyl ac fe gawson nig yd groeso arbennig gan y merched."
Fe fydd yr enillwyr Tina Ballard, Rhianwen Condron a Sarah Davies yn ymuno a'r tri chwaraewr lwcus ar ddet i leoliad dirgel!
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets: "Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, bwriad y nosweithiau yma yw i gynnig noson yn llawn hwyl i'n cefnogwyr a sicrhau ei fod yn ddigwyddiad cofiadwy.
"Mae gyda ni gyfleusterau gwych yma ar gyfer y math yma o ddigwyddiadau ac roedd yn amlwg yn beth da i weld y tri chwaraewr yn ennill dêt hefyd!
Ychwanegodd Moon: "Mae'r rhaglen deledu wedi dod yn boblogaidd iawn ac mae'n bwynt siarad ymysg bobl o bob oed felly fe benderfynon ni wneud noson debyg ond gyda thro Scarlets yn y cynffon! Ry'n ni'n edrych ymlaen i gynnal nosweithiau tebyg yn y dyfodol agos."
Fe fydd Canolfan Delme Thomas, Parc y Scarlets yn cynnal un o nosweithiau Wythnos Ffasiwn Llanelli ar nos Fercher 23ain Mawrth.
Fe fydd Parc y Scarlets yn cyflwyno 'On Trend With Trostre' gyda sioe ffasiwn Chwaraeon, Gwyliau a Gwyliau Cerddoriaeth.
Yn ogystal a modelau proffesiynol fe fydd nifer o chwaraewyr y Scarlets yn cymryd rhan. Fe fydd y noson hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adloniant gan gynnwys cerddoriaeth byw.
Gallwch brynu tocynnau am £5 yn unig o Swyddfa docynnau'r Scarlets o ddydd Llun 28ain Chwefror ac fe fydd tocyn yn rhoi mynediad am ddim i chi i gem Scarlets v Benetton Treviso hefyd.
Fe fydd Scarlets yn croesawu Benetton Treviso i Barc y Scarlets ar ddydd Sul 27ain Mawrth, cic gyntaf 5.35pm. Dewch a'ch partner am brynhawn hyfryd i Barc y Scarlets ar gyfer Diwrnod y Menywod. Yn bresennol ym Mhentref y Cefnogwyr y bydd Captiva Spa a fydd yn rhoi sylw i'ch gwallt, eich ewinedd a'ch hamrannau!
Tocynnau ar werth o'r Swyddfa docynnau ar 0871 871 8088 neu www.scarlets.co.uk. Mwy o wybodaeth am Ddiwrnod y Menywod i ddilyn yn fuan.











