Daeth y cais agoriadol i'r Scarlet ifanc Owen Williams wrth iddo wibio heibio i'r taclwyr a rhedeg ar hyd yr asgell.
Troswyd y cais gan Matthew Morgan ac roedd yn gosod ei ail gic o fewn munudau i'r cyntaf wrth iddo sgori ail gais Cymru. Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o 17-0.
Edrychodd yr Eidal yn fygythiol trwy'r blaenwyr ond gwelwyd gwaith arbennig gan linell amddiffynol Cymru.
Anfonwyd y prop Will Taylor i'r gell gosb am benio ac fe agorwyd sgorfwrdd yr Eidalwyr am y tro cyntaf wrth i Palzzani osod ei drydydd cic.
Daeth trydydd cais Cymru wrth i brop y Scarlets Rob Evans rhedeg yn nerthol at y gwyngalch.
Wrth i'r hanner agoshau death cais cyntaf yr Eidal wrth i Leonardo Sarto groesi i gadw'r dorf cartref yn hapus, troswyd gan Palzzani.
Ychwanegwyd tri phwynt arall gan Morgan wrth i faswr yr Eidal Luca Morisi weld cerdyn melyn am droseddu yn y ryc.
Daeth ail gais i Williams wrth iddo rhedeg ar hyd yr asgell unwaith eto.
Ymunodd ei gyd-Scarlet Kirby Myhill yn y parti wrth iddo ef rhedeg nerth ei draed ar hyd 30 metr i groesi am bumed cais yr ymwelwyr.
Llwyddodd yr eilydd Joseff Griffin i sgori ar y chwiban olaf ar ol i Amar Kudin gipio ail gais y tim cartref.
Fe fydd Cymru dan 20 yn wynebu Iwerddon ym Mharc y Scarlets nos Wener 11eg Mawrth, cic gyntaf 7.10pm. Tocynnau ar werth o Swyddfa docynnau'r Scarlets, 0871 871 8088.











