Cafodd y chwaraewyr ifanc gyfle i gyfarfod rhai o ser y Scarlets gan gynnwys Dafydd Jones, Lee Williams a Ken Owens a gymrodd rhan yn y sesiwn hyfforddi gan rhannu eu profiad a dealltwriaeth rygbi.
Mae Mark Jones, cyn asgellwr a Hyfforddwr Sgiliau y Scarlets yn dweud: "Mae'r Cwrs Sgiliau Rygbi a rhedir ar y cyd gyda'r Urdd yn gyfle ffantastig i bobol ifanc y rhanbarth i gymryd rhan mewn Rygbi. Mae'r cwrs, a rhedir gan ein Swyddog Datblygu Gymunedol yn ffordd grêt i blant i ddysgu sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn awyrgylch hwyliog. Cael hwyl, a gwneud ffrindiau newydd yw'r ffocws, a dyma'r ffordd gorau o ddatblygu talent ifanc o fewn y rhanbarth ac wrth gwrs mae'n rhoi cyfle i chwaraewyr presennol y Scarlets i rhoi yn ôl i eu cymuned."
Fe fydd sesiynau sgiliau yn cymryd lle dros wyliau'r haf, cadwch lygad ar wefan y Scarlets am wybodaeth pellach.











