Yn bresennol yn y noson y bydd nifer o enwau mawr rygbi'r 60au, 70au a'r 80au gan gynnwys David Watkins, JPR Williams, Gareth Edwards, Barry John, Mervyn Davies, Dai Morris, John Taylor, John Lloyd, Stuart Watkins, Keith Jarrett, Adrian Hadley a Paul Thorburn.
Yn ogystal a hwy fe fydd y chwaraewyr a drechodd Seland Newydd ym 1972 yn bresennol hefyd, gan gynnwys Roy Bergier, Phil Bennett, Derek Quinnell a Chico Hopkins.
Y siaradwyr gwadd ar y noson bydd Gareth Jenkins, John Perkins, Tom David, John Dawes a Clive Rowlands a fydd rhannu straeon am Delme fel chwaraewr, gwrthwynebydd a ffrind.
Fe fydd yr elw yn mynd i gefnogi'r elusennau y mae Clwb Rygbi Elusennol yn eu cefnogi.
Pris sedd yw £45 yr un neu bwrdd o 10 am £450. Cysylltwch a David Power ar 01633 864938 neu 07973705062. Mae manylion pellach ar gael o'r wefan www.welshcharitablesrfc.comneu ebostiwch David Power ar david.power@welshcharitablesrfc.com











