Fe fydd y Scarlets yn teithio i Ffrainc fel rhan o'u paratoadau dros yr haf ac ar ddiwedd yr wythnos hyfforddi y bydd gem yn erbyn un o glybiau mawr Ffrainc - Clermont. Fe fydd y gem yn cymryd lle ar nos Wener 19eg Awst.
Gem gyntaf y gyfres cyfeillgar bydd gem gartref yn erbyn Rotherham Titans ar ddydd Sadwrn 13eg Awst, cic gyntaf 12 y prynhawn ar yr un diwrnod a fydd Cymru yn herio Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.
Fe fydd Parc y Scarlets yn barod am ddiwrnod mawr o rygbi gyda'r gem rhyngwladol yn cael ei dangos fel ran o'r adloniant yn ystod y prynhawn.
Y gwrthwynebwyr ar gyfer y gem gyfeillgar olaf bydd Exeter Chiefs ac fe fydd y gem hon yn cymryd lle oddi cartref ar ddydd Sadwrn 27ain Awst, cic gyntaf 3pm.
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets: "Mae'r Scarlets wastad yn perfformio'n dda yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd ac mae digon i ni edrych ymlaen ato wrth fynd i mewn i'r tymor nesaf.
"Mae'r gemau cyfeillgar yn ffordd arbennig i ddechrau'r tymor ac mae'n gyfle i'r cefnogwyr weld wynebau newydd ar y cae. Gyda nifer o chwaraewyr newydd yn ymuno a charfan y Scarlets a nifer o wynebau ifanc fe fydd yn gyfle i'r cefnogwyr weld rhai o ser y dyfodol.
"Fe fydd y gem yn cael ei chwarae cyn gem fawr Cymru yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ac oherwydd hyn ry'n ni wedi gorfod aros am gadarnhad gan URC. Ry'n ni'n edrych ymlaen i ddiwrnod gwych o rygbi yma ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 13 Awst!"
Fe all ddalwyr tocynnau tymor gadw ei sedd tocyn tymor ar gyfer y gem yn erbyn Rotherham Titans ond nid yw wedi ei gynnwys yn eich pecyn tocyn tymor.
Mae tocynnau tymor ar werth yn awr ym Mharc y Scarlets. Os nad ydych wedi cael cyfle i adnewyddu neu brynu tocyn tymor eto ffoniwch y Swyddfa docynnau ar 0871 871 8088 neu ewch i www.scarlets.co.uki weld y pecynnau'n llawn.
Fe fydd pris tocynnau'r gem gyfeillgar yn cael eu cyhoeddi yn fuan.











