Mae'r gêm yn un o'r digwyddiadau mawr yng nghalendr chwaraeon y flwyddyn ac mae'r cyffro ar gynnydd wrth i Lanelli baratoi i wahodd un o dimau mawr y byd. Fe fydd Manchester United yn chwarae Clwb Pêl-droed Llanelli fel rhan o'i calendr haf prysur.
Ry'n ni'n falch o gynnig cyfle gwych i gefnogwyr ifanc fod yn fascot ar y diwrnod wrth i Lanelli wynebu Manchester United yn eu hail gartref.
Am £155 y teulu a taw fe allwch chi fwynhau lletygarwch tair awr cyn y gic gyntaf a defnydd o'r lolfa hyd at ddwy awr ar ôl y chwiban olaf. Fe fydd bwffe dau gwrs yn cael ei weini yn y lolfa cyn y gêm ac fe fydd pob un o'ch gwesteion yn derbyn rhaglen swyddogol i gofio'r diwrnod.
Ar ôl i chi fwynhau pryd arbennig o fwyd fe fyddwn ni'n eich gwahodd chi i gymryd eich sedd yn Stand Castell Howell y De yn barod i groesawu'ch plentyn i'r cae!
Fe fydd eich plentyn yn cael cyfle i gerdded i gae Parc y Scarlets fel mascot a mwynhau holl adloniant ac awyrgylch y stadiwm.
Am wybodaeth pellach a ffurflen archebu cysylltwch a Julie David ar 07970 601582 neu ebostiwch juliedavid@scarlets.co.uk. Nodwch bod pecynnau lletygarwch eraill ar gael o £60 y pen a taw.
Dewch i gefnogi Clwb Pêl-droed Llanelli wrth iddynt wynebu Goliath byd y bêl gron ym Mharc y Scarlets! Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Parc y Scarlets, ffoniwch ar 0871 871 8088 neu cliciwch yma.
Clwb Pê-droed Llanelli v Eilyddion Manchester United, Llun 8fed Awst, cic gyntaf 7.45pm.











