Fe fydd holl gemau'r eilyddion, 11 ohonynt, yn cael eu chwarae yn stadiwm y Scarlets yn ystod y tymor sydd i ddod ac fe fydd Parc y Scarlets yn agor y drysau i dimau fel Lerpwl, Arsenal, Newcastle Utd a Chelsea.
Fe fydd y gemau cartref yn cael eu chwarae ar nos Lun a nos Fercher gyda'r gic gyntaf am 7pm.
Fel clwb yn yr uwch gynghrair, roedd yn rhaid i glwb pêl-droed Dinas Abertawe brofi bod ganddynt gae o safon i'r eilyddion. Mae Parc y Scarlets wedi ei achredi gan UEFA yn barod ac wedi pasio prawf diweddar gyda wyth o'r 11 pwynt yn raddau arbennig.
Mae Parc y Scarlets wedi cynnal gemau Cymru dan 21 a gemau rhyngwladol yn ogystal a gêm diweddar Clwb Pêl-droed Llanelli yn Ewrop. Uchafbwynt hyn oll bydd y gêm gyfeillgar fawr yn erbyn Manchester United ar nos Lun (8fed Awst), cic gyntaf 7.45pm.
Mae'r gêm unigryw hwn yn gyfle i gefnogwyr pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol i weld Manchester United yng Nghymru. Mae tocynnau'n dal ar gael ar gyfer y gêm arbennig hwn trwy Swyddfa docynnau'r Scarlets ar 0871 871 8088.
Dywedodd Mark Davies, Prif Weithredwr y Scarlets: "Mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi llwyddo i wneud cam mawr ymlaen ym myd chwaraeon ac mae'n gyflawniad ardderchog ac yn ysbrydoliaeth i glybiau eraill. Mae'n brawf ei fod yn bosib i gyrraedd y top mewn ffordd cynaliadwy ac mae'n profi hefyd bod unrhywbeth yn bosib gyda digon o bendantrwydd ac ysbryd da ymysg y tim.
"Maent wedi adeiladu o sylfaen cynaliadwy ac maent yn llawn haeddu i gyrraedd yr Uwch Gynghrair ar ôl blynyddoedd o fuddsoddi ac amynedd, yn edwedig dros y dair mlynedd diwethaf.
"Ry'n ni'n hynod o falch o gefnogi'r Swans ac i gynnal gemau'r eilyddion. Mae'n anrhydedd i ni fod yn rhan o lwyddiant y clwb wrth symud ymlaen.
"Mae hwn yn gyfle arbennig i deuluoedd weld rhai o enwau mawr y byd pêl-droed ar stepen drws - mae'n gasgliad anhygoel o gemau i unrhyw gefnogwr chwaraeon. I'r rheini na fydd yn ddigon lwcus i weld tim cyntaf Abertawe ar y cae mae digon o gemau cyffrous ar y gweill yma ym Mharc y Scarlets, 25 munud yn unig ar hyd yr M4 o'r Liberty."
Dywedodd Davies ei fod am weld cartref y Scarlets, sy'n dal 15,000, yn llawn dop gyda llond lle o weithgareddau chwaraeon amrywiol yn y ganolfan hyfforddi dan-do, yn ogystal ag 16 gêm gartref y Scarlets.
Mae'r Scarlets wedi cael cyfnod llwyddiannus yn ddiweddar gyda mwy na 35,000 o gwsmeriaid yn ymweld a Pharc y Scarlets tu allan i ddiwrnod rygbi.
Dywedodd Mark Davies: "Mae cael ein dewis fel cartref tim Eilyddion Dinas Abertawe yn brawf unwaith eto bod gennym leoliad heb-ei-ail yma gyda chyfleusterau arbennig.
"Mae hwn yn stadiwm arbennig i bobl ymweld a hi i fwynhau amrywiaeth o chwaraeon ac mae'n gartref i filoedd o gefnogwyr calon ac enaid rygbi o bob cwr o Gyrmu a thu hwnt.
"Fe fydd y gemau yn gyfle i weld sêr rhyngwladol y dyfodol wrth eu gwaith. Er mwyn i ni fedru cefnogi'n system datblygiad a buddsoddi yn nhalent ein rhanbarth mae'n rhaid i ni sicrhau bod y busnes yn gweithio tu hwnt i'r calendr rygbi."
Dywedodd Huw Jenkins, Cadeirydd CPD Dinas Abertawe: "Ry'n ni'n edrych ymlaen i chwarae'r gemau yma ym Mharc y Scarlets. Mae gan y Scarlets gyfleusterau gwych ac yn bwysicach fyth efallai yw bod ganddynt gae chwarae heb-ei-eil ac fe fydd yn ffafriol i'r ffordd y mae CPD Abertawe yn chwarae pêl-droed.
"Ry'n ni wedi derbyn cefnogaeth arbennig dros y blynyddoedd o ardal Llanelli ac mae'n gret ein bod yn medru ymestyn y gefnogaeth hyd yn oed ymhellach.''
Gemau Dinas Abertawe (Eilyddion) yng Nghynghrair Barclays i'w cynnal ym Mharc y Scarlets. Fe fydd y gemau i gyd yn dechrau am 7pm:
- Mercher Awst 17ain yn erbyn Bolton Wonderers
- Mercher Awst 31ain yn erbyn Lerpwl
- Mercher Medi 28ain yn erbyn Newcastle Utd
- Llun Hydref 17eg yn erbyn Fulham
- Llun Tachwedd 7fed yn erbyn West Bromwich Albion
- Llun Tachwedd 14eg yn yn erbyn Wolves
- Mercher Rhagfyr 14eg yn erbyn Arsenal
- Llun Ionawr 9fed yn erbyn Norwich City
- Llun Chwefror 13eg yn erbyn Chelsea
- Llun Chwefror 27ain yn erbyn Aston Villa
- Llun Ebrill 2il yn erbyn Wigan Athletic
Mae Parc y Scarlets wedi llwyfannu gemau rhyngwladol Cymru yn erbyn Estonia (Mai 2009) a Luxembourg (Awst 2010) yn ogystal a gemau UEFA dan 21.
Fe fydd Manchester United yn chwarae ym Mharc y Scarlets wythnos nesaf. Dyma'ch cyfle chi i weld un o dimau mawr y byd ar eich stepen drws!
Mae tocynnau yn £12 oedolion, £5 i blant dan 16 a £10 i'r henoed. Gallwch brynu tocyn teulu, dau oedolyn a dau blentyn am £30. Cysylltwch a'r Swyddfa docynnau ar 0871 871 8088. I brynu lletygarwch o £60 y pen a taw cysylltwch a Julie ar 07970 601582.











