Fe fydd y Scarlets yn dechrau'r tymor gyda gêm gartref ar y 4ydd o Fedi yn erbyn Aironi, cic gyntaf am 4pm.
Yn dilyn y rownd agoriadol fe fydd y Scarlets yn teithio i Connacht a Munster cyn penwythnos arbennig ym Mharc y Scarlets yn erbyn Leinster lle bydd y rhanbarth yn dathlu 5,000fed gêm. Fe fydd Parc y Scarlets dan ei sang gyda llond lle o weithgareddau, adloniant a cyn chwaraewyr.
Mae gemau'r Scarlets fel a ganlyn:
- Sul 4ydd Medi, CG 4pm: Scarlets v Aironi, Parc y Scarlets
- Sad 10fed Medi, CG 3.15pm: Connacht v Scarlets, Sportsground
- Sad 17eg Medi, CG 7.45pm: Munster v Scarlets, Parc Musgrave
- Sad 24ain Medi, CG 6.30pm: Scarlets v Leinster, Parc y Scarlets
- Sad 1af Hyd, CG 3pm: Benetton Treviso v Scarlets, Stadio Monigo
- Gwe 7fed Hyd, CG 7.05pm: Scarlets v Rygbi Caeredin, Parc y Scarlets
- Sad 29ain Hyd, CG 3pm: Scarlets v Ulster, Parc y Scarlets
- Sad 5ed Tach, CG 6.30pm: Gweilch v Scarlets, Stadiwm Liberty
- Gwe 25ain Tach, CG 7.05pm: Scarlets v Dreigiau Casnewydd Gwent, Parc y Scarlets
- Gwe 2ail Rhag, CG 7.05pm: Ulster v Scarlets, Ravenhill
- Llun 26ain Rhag, CG 2.05pm: Scarlets v Gweilch, Parc y Scarlets
- Gwe 30ain Rhag, CG 7.05pm: Dreigiau Casnewydd Gwent v Scarlets, Rodney Parade
I weld restr lawn o gemau'r Scarlets yn 2011-12, gan gynnwys Cwpan Heinkene a Chwpan LV= cliciwch yma.











