Ar yr asgell y bydd George North ac fe fydd Jon Davies yn chwarae yn y canol. Nid yw capten y Scarlets a Chymru ar gael oherwydd anaf i'w wddf, anaf y bydd y doctoriaid yn ei hail asesu wythnos nesaf.
Yn ymddangos ar y fainc dros y Scarlets y mae Tavis Knoyle (maswr), Scott Williams (canolwr) a Morgan Stoddart (asgellwr/cefnwr).
Dywedodd Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru: "Dyma'r dynion sydd a gafael ar y crys ar hyn o bryd ond mae'n rhaid iddyn nhw ddangos eu bod yn haeddu dal gafael ynddi. Perfformiad eithriadol yn Twickenham dros y penwythnos yn unig fydd yn sicrhau hynny.
"Mae yna bwysau mawr ar unigolion ond mae'n holl bwysig hefyd i'r tim greu momentwm wrth i ni baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd."
Ychwanegodd Rob Howley, is-hyfforddwr Cymru: "Mae'n gamp a hanner i Stephen ond fe dderbyniodd e'r clod wrth iddo gyrraedd ei ganfed cap, felly fe ddylem edrych y tro hwn at Alun Wyn sy'n cyrraedd y carreg filltir bwysig o hanner cant o gapiau.
"Mae Rhys wedi gwneud yn dda iawn yn safle'r cefnwr i'r Scarlets ac mae'n gyfle da i ni ei brofi yn y safle hwn ar lefel yn uwch. Does dim dwywaith y bydd yn siwr o wneud ei farc."
Tim Cymru i wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn 6ed Awst (cic gyntaf 2.30pm):
R Priestland (Scarlets); G North (Scarlets), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision Caerdydd), S Williams (Gweilch); S Jones (Scarlets), M Phillips (Bayonne); P James, H Bennett (Gweilch), C Mitchell (Exeter), B Davies (Gleision Caerdydd), A-W Jones (Gweilch), D Lydiate (Dreigiau Casnewydd Gwent), S Warburton (Gleision Caerdydd, capt), T Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).











