Fe fydd dalwyr tocynnau tymor y Scarlets yn derbyn PUMP mynediad di-dal i gemau cartref CPD Llanelli yn ystod y tymor ac fe fydd cefnogwyr teyrngar y Cochion yn derbyn DAU fynediad di-dal i gemau cartref y Scarlets yn ystod tymor 2011/2012.
Mae'n syml iawn i gefnogwyr hefyd, y cwbwl sydd angen i chi wneud yw dangos eich tocyn tymor yn Swyddfa docynnau'r Scarlets neu CPD Llanelli.
Dywedodd Nigel Richards, Rheolwr Cochion Llanelli: "Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'r Scarlets am y gefnogaeth arbennig ry'n ni wedi ei dderbyn yn ystod y flwyddyn wrth i ni baratoi i ddatblygu fel clwb a chyflwyno gwelliannau i'r cyfleusterau.
"Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i ni hyd yn hyn ac ry'n ni eisiau adeiladu ar y llwyddiannau ry'n ni wedi eu gweld hyd yn hyn. Mae'r gwaith caled i gyd yn derbyn hwb heno wrth i ni groesawu eilyddion Manchester United i Barc y Scarlets.
"Mae'n anhygoel ein bod ni'n croesawu Man Utd - un o dimau mawr y wlad, os nad y byd yn chwarae Llanelli! Mae'n gyfle i ni wireddu breuddwyd pob lwc ac mae'n gyfle gwych i'n chwaraewyr ni.
"Mae'r cynnig tocyn tymor newydd yn newyddion arbennig i gefnogwyr y dref ac ry'n ni'n gobeithio y daw nifer o gefnogwyr y Scarlets i'n gweld ni'n ystod y tymor!"
Nodwch nad yw'r cynnig yn agored i gemau'r Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd a'r Gweilch yn ystod tymor 2011/2012.
Dywedodd yr hyfforddwr Andy Legg, cyn y gem fawr heno yn erbyn Manchester United: "Mae'r chwaraewyr yma'n chwaraewyr amatur ac fe fydd yn brofiad anhygoel iddynt chwarae ar lefel broffesiynol - does dim clwb gwell i gael!
"Roedd yn ddechrau gwael i'r tymor i ni y llynedd ac ry'n ni'n gobeithio am ddechrau gwell tro yma. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein tymor a cheisio cyrraedd y brig."











