Dechreuodd y gêm o flaen torf o bron i 7,000 gyda'r awyrgylch yn danbaid yn y stadiwm 15,000 seddau.
Roedd y gêm fawr yn rhan o baratoadau Cochion Llanelli ac fe lwyddodd y tim i sicrhau'r gêm trwy gysylltiadau'r rheolwr Andy Legg â Darren Ferguson, mab Syr Alex!
Roedd y Scarlets yn hapus iawn i gynnig cefnogaeth i'r gêm ac mae'r digwyddiad wedi bod yn gyfle i'r Reds wneud gwaith angenrheidiol ar Barc Stebonheath.
Yr ymwelwyr oedd a rheolaeth o'r gêm o'r cychwyn wrth i Lanelli golli o ddwy gôl i ddim ar Barc y Scarlets. Sgoriwyd y gôl gyntaf wedi 11 munud gan Souleymane Mamam.
Daeth y Cochion yn ôl i mewn i'r gêm ond yn anffodus ni lwyddodd Chad Bond i fwrw ei darged pum llathen tu hwnt i'r gôl.
Dywedodd Rheolwr Tim CPD Llanelli: "Roedd yn brofiad gwych i'n chwaraewyr ni, chwarae o flaen torf mawr a dod i arfer a'r digwyddiad mawr yn ogystal a'r gêm.
"Mae'r chwaraewyr sy'n rhan o Manchester United, boed yn y tim cyntaf, yr eilyddion neu'r tim ieuenctid yno am reswm. Mae wedi bod yn gyfle gwych i'w gwynebu yn ein cartref ni. Roedd yr ugain munud agoriadol yn anodd i'r bois ond gwelwyd gwell chwarae yn ail hanner yr hanner cyntaf."
"Mae'r talent yn amlwg yn eu tim nhw ac fe fydd nifer ohonynt yn ser y dyfodol. Efallai bod nifer o'r chwaraewyr yma wedi chwarae'n erbyn Giggs, Beckham, Neville, Butt's y dyfodol.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn wych i chwaraeon yng Nghymru ac mae'n rhaid bod ein hymwelwyr wedi mwynhau'r cyfle o chwarae ym Mharc y Scarlets o flaen torf egniol iawn."
Talwyd teyrnged i stadiwm y Scarlets gan rheolwr Eilyddion Manchester United, Warren Joyce a diolch am y croeso.
Dywedodd: "Mae Parc y Scarlets yn stadiwm arbennig ac mae yna gyfleusterau gwych yma, mae'n bois ni wedi dod yma i chwarae o flaen tof fawr ac mae'n brofiad da iddynt.
"Ry'n ni wedi cael croeso twymgalon ac mae'r chwaraewyr wedi mwynhau'r profiad yma heno."
Roedd y tim o Manchester United yn aros dros nos yng ngwesty Oxwich Bay gyda'r gobaith o weld ychydig o haul hafaidd Cymru ar yr arfordir cyn wynebu gêm gyfeillgar yn erbyn Bangor nos Fercher.
Timau:
CPD Llanelli: Ashley Morris, Chris Thomas, Lloyd Grist, Lee Surman, Stuart Jones, Chris Venables, Antonio Corbisiero, Jason Bowen, Craig Williams, Rhys Griffiths, Chad Bond. Eilyddion: Martyn Giles, Chris Holloway, Chris Llewellyn, Jordan Follows, Ashley Evans, Craig Richards, Scott Evans, Tyrone Davies, Ross Jones, Adam Orme, James Secker.
Eilyddion Manchester United: Ben Amos, Larnell Cole, Marnick Vermijl, Paul Pogba, Michele Fornasier, Exekiel Fryers, Souleyman Maman, Daniel Drinkwater, William Keane, Davide Petrucci, Jesse Lingard. Eilyddion: Ravel Morrison, Sam Johnstone, Luke Giverin, Rafael Leao, John Colfie.











