Fel llywydd newydd y Scarlets fe fydd Phil Bennett yn gweithio'n agos gyda'r Cadeirydd newydd Nigel Short a'r Prif Weithredwr Mark Davies yn eu cefnogi i ehangu'r busnes.
Yn ogystal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau allweddol y Scarlets, fe fydd yn gweithio'n agos i feithrin partneriaeth ar lefel leol gan weithio gyda chlybiau rhanbarthol, colegau ac ysgolion i ddatblygu pobl ifanc trwy chwaraeon.
Fe fydd ei gyfrifoldebau yn cynnwys gwaith fel llysgennad rhyngwladol i'r Scarlets, yn gwahodd gwesteion i ddiwrnodau gêm yn ogystal a chalendr prysur o ddigwyddiadau a chiniawau. Fe fydd yn gweithio'n agos a chyn chwaraewyr y Scarlets a Chlwb Rygbi Llanelli.
Cafodd Phil Bennett ei gyflwyno ag OBE ym 1979 am ei wasanaeth i chwaraeon. Fe fydd e'n chwarae rol bwysig yn rhaglen llysgennad newydd y Scarlets a fydd yn cael ei gyhoeddi'n ystod y tymor nesaf. Fe fydd y rhaglen buddsoddi yn cefnogi gweledigaeth y Scarlets a'r ymrwymiad i ddatblygu talent trwy ddefnydd o ysgoloriaethau a buddsoddi i sicrhau parhad chwaraewyr llwyddiannus fel Jon Davies, George North, Rhys Priestland a Scott Williams.
Dywedodd Mark Davies, Prif Weithredwr y Scarlets: "Mae hwn yn un dyn sy'n llawn haeddu ei le ar y llwyfan rhyngwladol fel arwr rhyngwladol. Mae ei wasanaeth i Lanelli, Scarlets, Cymru a rygbi yn gyffredinol yn dweud cyfrolau ac ry'n ni wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i gymryd yr awennau fel Llywydd y Scarlets.
"Fel un o wir arwyr y gêm fe fydd Phil yn parhau i sefyll allan yn y llyfrau hanes am ddegawdau i ddod ac mae ei angerdd i'r gêm yn anhygoel. Mae ganddo gysylltiad agos gyda chlybiau yn y rhanbarth a'r bobol sy'n rhoi o'u hamser i gynnal y clybiau yma.
"Mae ganddo enw da ym myd rygbi am ei weledigaeth a'i angerdd. Nid oes llawer a allaifod yn wyneb rhynwgladol i'r Scarlets ac ry'n ni'n edrych ymlaen i weithio'n agos gyda Phil yn y tymhorau sydd i ddod."
Fe fydd etifeddiaeth y Scarlets yn cael ei ddathlu dros y flwyddyn newsaf wrth i'r rhanbarth ddathlu 5,000 o gemau ar y 24ain Medi, 2011 yn erbyn Leinster.
Fe fydd y dathlu yn parhau i flwyddyn nesaf hefyd wrth i'r clwb ddathlu 40 mlynedd ers y fuddugoliaeth hanesyddol 9-3 dros y Crysau Duon ym 1972.
Dywedodd Phil Bennett, Llywydd y Scarlets: "Rwyf yn browd iawn o gymryd y rol hwn, fe fydd yn anrhydedd i fod yn rhan o'r clwb wrth iddynt ddatblygu chwaraewyr ifanc. Mae yna lot o waith yn mynd ymlaen tu ôi'r llenni ac mae gan y clwb gefnogaeth heb ei ail.
"Fe fydd yn anrhydedd i fod yn rhan o'r gweithgareddau tymor nesaf mewn safle swyddogol ac i gynorthwyo i gefnogi'r rhanbarth sydd wedi bod yn rhan allweddol o'm mywyd ers blynyddoedd lawer. Rwy'n edrych ymlaen i gynnig fy mhrofiadau a fy nghefnogaeth lle bynnag fo hynny'n bosib.
"Mae yna lot o waith yn cael ei wneud tu ôl i'r llenni ond mae yna lawer mwy o waithh i'w wneud. Mae'n gyfnod cyffrous iawn i fod yn rhan o'r clwb."
Mae rol Llywydd y Scarlets yn safle newydd ac fe fydd yn eistedd ar y cyd a Llywydd Clwb Rygbi Llanelli a grewyd pan welwyd genedigaeth y rhanbarth. Fe fydd Phil Bennett yn gweithio ar y cyd a Llywydd Clwb Rygbi Llanelli Marlston Morgan, sy'n cymryd yr awennau wrth yr arwr Derek Quinnell sy'n rhoi'r gorau iddi ar ôl tair mlynedd o wasanaeth arbennig. Mae Marlston Morgan yn cyn gapten ar glwb rygbi Llanelli ac roedd yn gadeirydd ar y clwb, mae hefyd yn eistedd ar fwrdd y Scarlets fel cyfarwyddwr etifeddiaeth.
Aeth Mark Davies ymlaen i ddiolch i Derek Quinnell ar ran y Scarlets: "Ry'n ni gyd yn hynod o ddiolchgar i Derek am ei wasanaeth a'i ymrwymiad i'r Scarlets ac am ei gefnogaeth parhaol. Mae wedi gwneud gwaith arbennig fel Llywydd dros y dair mlynedd diwethaf ac rwy'n siwr y bydd Marlston yn parhau a'r gwaith da."











