Yn cymryd lle Morgan Staoddart, a dorrodd ei goes yn ystod y gêddiwethaf, fel cefnwr y mae James Hook a fydd yn ymuno a Perpignan ar gyfer y tymor newydd.
Mae Warren Gatland a'i dim hyfforddi wedi dweud bod angen gweld yr un math o berfformiad unwaith et oar ôl iddynt sgori tri chais yn erbyn Lloegr yn Twickenham.
Mae'r asgellwr George North, a sgoriodd dwy gais dydd Sadwrn diwethaf, yn cadw ei le ynghyd ag asgellwr y Gweilch Shane Williams.
Yn derbyn cyfle i ennill eu lle yng ngharfan Cwpan y Byd y mae blaenasgellwr y Scarlets Josh Turnbull a'r Justin Tipuric yn dilyn anaf i Ryan Jones.
Mae Tavis Knoyle a Scott Williams yn ymuno a Turnbull ar y fainc ynghyd ag asgellwr y Dreigiau Aled Brew yn lle'r mewnwr Lloyd Williams.
Dywedodd Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru: "Mae'n rhaid i ni ennill y gêm yma - mae mor rhwydd a hynny. Rwyf wedi egluro wrth y chwaraewyr bod yn rhaid i ni ennill y gêm yma er mwyn profi'n gallu cyn Cwpan y Byd.
"Ry'n ni'n wynebu'r grwp anoddaf yn y twrnament ac mewn llai na mis fe fyddan ni'n wynebu De Affrica yn ein gêm agoriadol. Mae'n holl bwysig i ni fynd i'r gêm hwnnw gyda swn y cefnogwyr yn ein meddyliau.
Ychwanegodd yr is-hyfforddwr Rob Howley: "Ry'n ni wedi canolbwyntio ar gysondeb yn y gem hwn ac mae'n rhaid i ni sicrhau perfformiad yn y gem hwn. Chwaraeodd Rhys yn eithriadol o dda o dan bwysau mawr wythnos diwethaf.
"Ry'n ni wedi dod a Josh Turnbull a Justin Tipuric ymlaen i'r fainc, dau chwaraewr ifanc sydd wedi dangos potensial mawr yn ystod ein sesiynau hyfforddi.
Nid yw'r canlynol ar gael oherwydd anafiadau: Matthew Rees (gwddf), Gethin Jenkins (coes), Stephen Jones (coes) a Leigh Halfpenny (pigwrn).
CYMRU: James Hook; George North, Jamie Roberts, Gavin Henson, Shane Williams; Rhys Priestland, Mike Phillips; Paul James, Lloyd Burns, Craig Mitchell, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Toby Faletau.
Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Josh Turnbull, Justin Tipuric, Tavis Knoyle, Scott Williams, Aled Brew.











