Yn dilyn gem y Scarlets y bydd Cymru v Lloegr yn cael ei ddangos yn fyw o Stadiwm y Mileniwm yn y Clwb.
Fe fydd llond lle o wynebau newydd i'w gweld dydd Sadwrn a fydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr calon ac enaid cenedl Cymru i weld rhai o dalentau ifanc y rhanbarth.
Yn rhan o'r gem dydd Sadwrn y bydd rhai o ser graddau oed Cymru gan gynnwys chwaraewyr dan 18 fel Jordan Williams a Rhodri Williams; bachwr dan 20 Cymru Kirby Myhill a dau ganolwr newydd sydd wedi perfformio'n dda mewn sesiynau hyfforddi Chris Keenan a Adam Warren. Yn ymddangos am y tro cyntaf hefyd y bydd y reng-ol Craig Price a'r wythwr o'r Mymbls Kieran Murphy.
Mae'r asgellwyr Lee Williams ac Andy Fenby, sy'n dychwelyd ar ôl deng mis yn dioddef o anaf, yn ychwanegu profiad i'r garfan yn ogystal a Richie Pugh, Damian Welch, Aaron Shingler, Phil John a Simon Gardiner.
Ar y fainc y mae'r bachwr Ken Owens, sydd wedi ei rhyddhau o garfan Cymru, yn dychwelyd ar ôl llawdriniaeth i'w wddf tymor diwethaf.
Yn dechrau yn safle'r maswr y mae Rhys Jones, mab Kingsley Jones. Mae Jones, chwaraewr saith bob ochr sydd ar gytundeb URC wedi ymuno a'r rhanbarth ac mae'n cyflwyno sgiliau reoli a dealltwriaeth allweddol i'r gem.
Tim y Scarlets i wynebu Rotherham Titans, Sadwrn 13eg Awst cic gyntaf 12 o'r gloch Parc y Scarlets: 15 Jordan Williams, 14 Lee Williams, 13 Adam Warren, 12 Chris Keenan, 11 Andy Fenby, 10 Rhys Jones, 9 Rhodri Williams, 8 Kieran Murphy, 7 Richie Pugh, 6 Craig Price, 5 Damian Welch, 4 Aaron Shingler, 3 Simon Gardiner, 2 Kirby Myhill, 1 Phil John (capten).
Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Peter Edwards, Ed Kelly, Nic Cudd, Matt Gilbert, Justin James, Jake Randell, Iolo Evans, Aaron Evans, Lee Rees.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae yna dalent anhygoel yn rhan o'r garfan ar hyn o bryd ac mae yna ddigon i ni edrych ymlaen ato.
"Mae'n gyfle gwych i nifer o'r bois yma sydd wedi dod i mewn i'r garfan am y tro cyntaf. Mae'n gyfle hefyd i ni berfformio ac i chwarae mewn gem gystadleuol.
"Mae nifer o chwaraewyr profiadol yn dod a'r chwaraewyr llai profiadol ynghyd ac mae hyn yn sicr o'n cynorthwyo i fuddugoliaeth dydd Sadwrn.
"Ry'n ni wedi bod yn falch gyda'n gwaith hyfforddi dros yr wythnosau diwethaf, mae lot o egni yma ac mae'r chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi'n dda. Maent yn barod am y gem ac o'n hochr ni dyma lle mae'n tymor ni'n dechrau. Ry'n ni gyd eisiau dechrau da a chadw'r momentwm i fynd."
Dywedodd Andy Fenby, yr asgellwr sy'n dychwelyd o anaf: "Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn, ry'n ni wedi gweithio'n galed ac mae yna nifer o wynebau newydd yma ym Mharc y Scarlets. Mae'r chwaraewyr i gyd yn barod am y cyfle ac ry'n ni gyd yn awyddus iawn i gamu ar y cae.
"Mae wedi bod yn dymor anodd i mi ond rwy'n bles iawn i fod yn ol ac yn edrych ymlaen i ddechrau dydd Sadwrn. Rwyf wedi derbyn lot o gefnogaeth gan y clwb i fi gyrraedd lle'r wyf i heddiw."











