Trwy gydol y sesiwn roedd Dafydd yn barod i gynorthwyo ac yn barod i rannu ei brofiadau gyda'r grwp.
Dywedodd Alan Williams: "Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r Scarlets am gymryd yr amser yn cynorthwyo'r tim ieuenctid."
Aeth Mr Williams ymlaen i ddweud: "Mae'r tim ieuenctid a'r clwb wedi elwa o'r ymweliad gan y Scarlets heno ac ry'n ni wedi croesawu dau chwaraewr newydd i'r tim!"
Ychwanegodd Dafydd Jones: "Mae'n wych i gael y cyfle i ddod draw i'r gorllewin i hyfforddi oedolion ifanc fel hyn. Gwelwyd lot o waith da gan y chwaraewyr ifanc."
Hoffai'r Scarlets ddymuno pob lwc i glwb rygbi Llangwm i'r tymor sydd i ddod.











