Fe ddechreuodd blwyddyn The Rookz ar ol iddynt ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2010.
Crewyd y band pump aelod ym mis Ionawr 2010 pan ddaeth Jordan Chappell a Darren Richards ynghyd a rhai o'u ffrindiau ysgol. O fewn wythnosau'n unig roedd y band yn ymarfer hen ganeuon ac yn mwynhau'r profiad o chwarae mewn band.
Wrth i'r band fwynhau ychydig o fywyd roc a rol fe ddechruoedd The Rookz gyfansoddi eu caneuon eu hunain a dechrau'r gwaith o greu enw i'w hunain gyda gigau cyson ar hyd a lled De Cymru. Enillodd y band ganmoliaeth feirniadol gan feirniaid cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mwynha 2011.
Cafodd The Rookz y dasg anodd o agor y digwyddiad ac fe gafwyd perfformiad gwych ganddynt o flaen miloedd o bobl.
Mae gan The Rookz nifer o gefnogwyr yn lleol ac maent wedi ennill ganmoliaeth feirniadol yn ehangach. Cafwyd perfformiadau ganddynt yn Beach Break Live Penbre i dorf o 20,000 o fyfyrwyr ac yn Party on the Pitch, Tycroes. Maent wedi perfformio ar raglan Lee Mack ar BBC1 ac mae'r arwr roc Alice Cooper wedi datgan ei fod yn hoff o'r band.
Fe fydd albym cyntaf The Rookz yn cael ei rhyddhau ar label Slick Records yn gynnar yn 2012.
Fe allwch ddysgu mwy am The Rookz ar
YouTube - www.YouTube.com/TheRookzMusic
Twitter - www.Twitter.com/The_Rookz
Facebook - www.Facebook.com/TheRookz
Fe fyddwn ni'n cyhoeddi gwybodaeth yn ddyddiol yr wythnos yma am artistiaid a digwyddiadau eraill Lansiad Cit y Scarlets! Cadwch lygad ar scarlets.co.uk, Scarlets - Official Facebook Page a @scarlets_rugby!











