Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies ei fod yn bles gyda'r perfformiad a'r fuddugolaieth 37-25 dros Rotherham Titans prynhawn Sadwrn gyda 11 Scarlet ifanc yn cael yr anrhydedd o chwarae yng nghrys y Scarlets am y tro cyntaf.
Dywedodd Davies: "Roedd yn ddechrau da i'r gemau cyfeillgar. Roedd nifer o chwaraewyr ifanc ar y cae prynhawn Sadwrn ac er bod y chwaraewyr dal ychydig yn rhydlyd fe welwyd digon o chwarae addawol. Mae'r chwaraewyr newydd sydd wedi bod yn rhan o'n sesiynau hyfforddi wedi gafael yn ein syniadaeth a'n ffordd o chwarae.
"Gwelwyd gwaith amddiffynol da hefyd ac roedd yn brawf da yn erbyn pac mawr. Roedd y gwaith o fynd trwy'r cymalau llawer yn well yn yr ail hanner ac ry'n ni'n ymwybodol iawn bod gennym chwaraewyr talentog yn ein carfan."
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets bod y daith i Ffrainc yn gyfle i barhau a'r gwaith hyfforddi ac yn gyfle i'r garfan ifanc ddod i adnabod ei gilydd yn well cyn gem gyntaf y tymor.
Dywedodd Davies: "Does dim gemau cyfeillgar mwy cystadleuol i gael na chwarae Clermont ar eu tir eu hunain, a hynny wythnos cyn eu gem agoriadol nhw.
"Mae'n gyfle i ni edrych ar ein carfan a cwblhau paratoadau munud olaf cyn gem agoriadol y tymor yn erbyn Aironi."
Dywedodd Davies bod y Scarlets wedi ffocysu ar adeiladu'r sylfeini o'r tymor diwethaf ac ar greu meddylfryd positif ymhlith y garfan.
"Ry'n ni'n falch gyda'r ffordd y mae'r gwaith paratoi wedi datblygu, ry'n ni wedi adeiladu ar lle'r oedden ni y tymor diwethaf yn hytrach na gwneud newidiadau mawr.
"Mae'r gemau cyfeillgar yn bwysig iawn oherwydd mae'n rhaid i'r tim fod yn gyfforddus yn chwarae gyda'i gilydd ac mae'n holl bwysig i ni adeiladu momentwm wrth fynd i mewn i benwythnos agoriadol y tymor.
"Ry'n ni wedi gweithio'n galed ar baratoi y chwaraewyr ifanc gyda gwaith ar y cae ac oddi ar y cae mewn awyrgylch ystafell ddosbarth. Maen rhaid iddynt feddwl ymlaen i'r gem nesaf yn hytrach na dysgu'n unig o'r camgymeriadau ar y cae."
Aeth Nigel Davies ymlaen i ddweud ei fod yn beth da bod cynifer o chwaraewyr y Scarlets yn debygol o deithio i Seland Newydd ar gyfer Cwpan y Byd.
"Mae lot yn cael ei ddweud am golli chwaraewyr pan mae cystadleuaeth Cwpan y Byd ymlaen ond mae'r un peth yn wir i bob clwb. Ry'n ni wedi bod yn paratoi at golli'r chwaraewyr yma am gyfnod ac ry'n ni'n bwriadu delio a'r sefyllfa'n gymwys yn hytrach na'i ddefnyddio fel esgus.
"Ry'n ni'n ei weld fel cyfle ar ddwy lefel; mae'n gyfle i ni gryfhau ein sylfeini a datblygu chwaraewyr talentog o'r rhanbarth ym mhob safle yn y garfan. Yn ail. Mae'n gyfle i ni gyd gymryd y cyfle i fod yn falch o chwaraewyr rhyngwladol a fydd yn dychwelyd ato ni yn fwy profiadol ac yn llawn hyder ar ol chwarae ar y lefel uchaf.
"Ry'n ni hefyd yn eitha sicr y bydd nifer o'n chwaraewyr ifanc yn enwau mawr erbyn diwedd y tymor."
Mae nifer o'r chwaraewyr ifanc yn teithio i Ffrainc ar ol perfformiadau selog dydd Sadwrn, yn eu plith y mae'r mewnwr ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru dan 18 Rhodri Williams a'i gyd-chwaraewr rhyngwladol Jordan Williams.
Mae'r ddau wedi datblygu trwy Academi'r Scarlets; mae Rhodri Williams (18) o Abertawe wedi chwarae i Rydaman a Llanymddyfri ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Dechreuodd Jordan Williams (17) o Lanelli yn safle'r cefnwr prynhawn Sadwrn. Dechruoedd ei yrfa rygbi gyda chlwb New Dock Stars cyn ymuno a Academi'r Scarlets.
Un o chwaraewyr newydd eraill y Scarlets yw'r maswr, 23 mlwydd oed, Rhys Jones, mab y chwaraewr rhyngwladol Kingsley Jones. Ganwyd a magwyd Jones yn Y Fenni, mae'n chwaraewr saith bob ochr rhyngwladol ac ma ear gytundeb gyda URC. Dychwelodd i glwb rygbi Casnewydd ym mis Mai 2010 ar ol cyfnodau gyda Sale Sharks a'r Cornish Pirates.
Carfan 32-dyn y Scarlets a fydd yn hyfforddi yn Ffrainc yr wythnos hon: Daniel Evans, Jordan Williams, Aled Thomas, Lee Williams, Nick Reynolds, Adam Warren, Gareth Maule, Iolo Evans, Chris Keenan, Andy Fenby, Lee Rees, Dan Newton, Rhys Jones, Rhodri Williams, Justin James, Iestyn Thomas, Phil John, Emyr Phillips, Kirby Myhill, Craig Hawkins, Rhys Thomas, Peter Edwards, Simon Gardiner, Dominic Day, Lou Reed, Rob McCusker, Aaron Shingler, Craig Price, Ben Morgan, Kieran Murphy, Johnathan Edwards, Richie Pugh.











