Fe fydd chwaraewr arall yn cyrraedd carreg filltir bwysig ac yn gyfartal a record Ieuan Evans a fydd yn gapten ar y tim am yr wythfed tro ar hugain.
Os fydd Stephen Jones yn ymddangos ar y cae, ar ol dychwelyd o anaf i'w goes, fe fydd yn torri'r record am y chwaraewr a'r nifer mwyaf o gapiau dros Gymru - 101.
Mae Jon Davies yn cymryd lle Gavin Henson ac yn ymuno a Jamie Roberts ar gyfer y bartneriaeth yng nghanol cae.
Mae mewnwr y Scarlets Tavis Knoyle yn dechrau am y tro cyntaf cyn maswr y Gweilch Mike Phillips.
Fe fydd George North yn newid asgell er mwyn dod a Leigh Halfpenny i fewn ac fe fydd James Hook yn cymryd lle Rhys Priestland yn safle'r maswr yn dilyn anaf.
"Ry'n ni wedi edrych ar y garfan ac wedi dewis tim a fydd yn sicrhau buddugoliaeth i ni, ond hefyd i roi cyfle i nifer o chwaraewyr sydd heb ymddangos eto," media prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland.
"Mewn nifer o ardaloedd fe fyddwn ni'n edrych ar gyfuno chwaraewyr gwahanol yn barod ar gyfer ein gem agoriadol yn erbyn De Affrica ar 11 Medi.
"Mae'n holl bwysig i ni sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin er mwyn cadw'r momentwm i fynd.
"Ry'n ni'n dal i edrych ar nifer o lefydd ac mae'r chwaraewyr yn ymwybodol iawn bod yn rhaid iddynt berfformio'n dda dydd Sadwrn."
CYMRU:Lee Byrne; Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; James Hook, Tavis Knoyle; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Martyn Williams, Ryan Jones (capten)
EILYDDION: Huw Bennett, Ryan Bevington, Andy Powell, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Stephen Jones, Aled Brew











