Mae'r chwaraewyr yn gorfod ymateb yn gyflym i amodau gwahanol, cynllun hyfforddi llawn ac aeth rheolwr y tim Garan Evans ymlaen i egluro pwrpas y gwersyll hyfforddi.
Dywedodd Garan Evans: "Un o nodweddau allweddol yr wythnos hyfforddi yma yw i brofi'r chwaraewyr a newid yr hyn y mae'r chwaraewyr wedi arfer ag ef ym Mharc y Scarlets. Ry'n ni wedi adnewyddu strategaeth y cynllun hyfforddi. Ry'n ni wedi trefnu nifer o weithgareddau oddi ar y cae hefyd, pethau sy'n anodd i ni wneud pan ry'n ni nol yng Nghymru.
"Mae'r cyfleusterau y mae Clermont wedi trefnu ar ein cyfer yn dda iawn - mae popeth yn ganolog iawn. Ry'n ni wedi cael dechrau positif i'r wythnos ac ry'n ni'n bendant yn mwynhau'r tywydd!"
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae wedi bod yn dda i fynd a'r chwaraewyr o Barc y Scarlets - mae'n rhoi perspective newid ar bethau, maent wedi ymateb yn dda hyd yn hyn.
"Ry'n ni'n parhau a'n gwaith paratoi ond ry'n ni wedi ychwanegu nifer o sesiynau sy'n wahanol i'r arferol. Mae'r tywydd wedi bod yn factor ond fe fydd yn beth da erbyn i ni gyrraedd nol yng Nghymru.
"Mae'n gyfle da i nifer o'r chwaraewyr ifanc i gael gwahoddiad i fynd i Ffrainc a chwarae'n erbyn Clermont - does dim her yn fwy i gael i'r chwaraewyr ifanc mewn gwirionedd.
"Mae'n rhoi cyfle i'r garfan weithio gyda'i gilydd a dod i adnabod ei gilydd yn well - mae'r digwyddiadau tu hwnt i rygbi yn ychwanegu ychydig o fywyd cymdeithasol i'r gwaith hyfforddi hefyd.
"Ry'n ni wedi dod i Ffrainc yn dilyn dechrau positif i'r gemau cyfeillgar ac ry'n ni'n awr a'n ffocws ar y gem nos Wener yn erbyn un o dimau mawr Ffrainc."
Mae disgwyl i Davies enwi ei dim yfory (Mercher) ar ol y sesiwn hyfforddi.











