Yn dilyn perfformiad cryf gan y bachwr Ken Owens penwythnos diwethaf fe fydd yn ymddangos unwaith eto ar y fain car ol cael ei rhyddhau gan Gymru.
Yn dychwelyd i'r tim y mae nifer o chwaraewyr mwy profiadol y Scarlets gan gynnwys Iestyn Thomas, Rhys Thomas, Ben Morgan, Rob McCusker a Johnathan Edwards yn dilyn buddugoliaeth wythnos diwethaf o 37-25 yn erbyn Rotherham Titans ar Barc y Scarlets.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Aethon ni ati yn syth i ofyn os fyddai'n bosib i Ken ymuno a ni pan glywson nad oedd yn rhan o'r garfan ar gyfer y gem dydd Sadwrn - ry'n ni'n falch iawn i gael chwaraewyr o'i allu ef gyda ni ar gyfer y gem gyfeillgar yma.
"Mae wedi bod yn wythnos anodd o hyfforddi mewn gwres tanbaid ond mae'r bois wedi gweithio'n galed ac ry'n ni wedi eu herio nhw'n gorfforol ac yn feddyliol. Maent yn awry n canolbwyntio ar y gem nos Wener.
"Mae wedi bod yn gret i'w gweld nhw'n gweithio'n galed gyda'i gilydd fel grwp. Mae cael gem fel hyn ar ddiwedd yr wythnos yn sicrhau eu bod yn cadw ffocws hefyd.
"Fe fydd yn brawf i'r chwaraewyr - mae Clermont yn dim cryf. Fe fydd yn ffordd dda i ni fesur datblygiad y chwaraewyr cyn y tymor.
"Mae'n gyfle i ni o chwaraewyr ddangos eu gallu ac i ddangos yr awydd i wisgo crys y Scarlets tymor nesaf."
Scarlets i wynebu Clermont, Gwener 19 Awst cic gyntaf 8pm (amser lleol) 15 Daniel Evans, 14 Lee Williams 13 Nick Reynolds 12 Aled Thomas 11 Andy Fenby, 10 Dan Newton 9 Rhodri Williams 8 Ben Morgan 7 Johnathan Edwards 6 Rob McCusker 5 Dominic Day 4 Lou Reed 3 Rhys Thomas 2 Emyr Phillips 1 Iestyn Thomas (Capt).
Eilyddion: Jordan Williams, Adam Warren, Iolo Evans, Chris Keenan, Lee Rees, Rhys Jones, Justin James, Phil John, Kirby Myhill, Simon Gardiner, Aaron Shingler, Ken Owens, Craig Price, Kieran Murphy.











