Gyda chynllun hyfforddi newydd a chyfleusterau gwahanol i ddygymod a nhw mae wedi bod yn wythnos anodd ac mae'r chwaraewyr wedi gorfod ymateb yn gyflym. Dywedodd rheolwr y tim garan Evans ei fod wedi bod yn brofiad anhygoel i'r garfan.
Dywedodd Garan Evans: "Mae wedi bod yn wythnos anodd ac mae wedi profi'r chwaraewyr yn feddyliol ac yn gorfforol. Un o'r prif amcanion oedd i adeiladu'r ysbryd ymysg y tim ac i ddod a'r garfan ynghyd.
"Cafwyd amser i ffwrdd o'r cae hyfforddi prynhawn ddoe a bu'n rhaid i'r bois wynebu prawf ar y dwr! Roedd yn ras hen ffasiwn i fod yn onest, rhannwyd y garfan i ddau dim a'r buddugwyr oedd y cyntaf i gyrraedd y diwedd. Roedd yn brawf anodd ar ol iddynt gael bore llawn o hyfforddi!
"Bu'n rhaid i rhai ohonynt nofio am 7cilometr ar ol i'r cwch droi. Y bwriad oedd i wthio'r bois i'r eithaf ac i brofi ei stamina."
Fe fydd y garfan yn cael sesiwn hyfforddi ysgafn heddiw ac yn canolbwyntio ar y gem nos yfory. Mae wedi bod yn wythnos gwerthchweil ac yn ffordd gwych o adeiladu'r ysbryd yn y tim.
Fe fydd y Scarlets yn wynebu Clermont am 8pm nos fory, Gwener 19eg Awst, cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer y gem penwythnos nesaf yn erbyn Exeter Chiefs.











