- Stephen Jones, maswr
- Ken Owens, bachwr
- Jonathan Davies, canolwr
- Tavis Knoyle, mewnwr
- George North, asgellwr
- Rhys Priesland, maswr / cefnwr
- Scott Williams, canolwr
Fe fydd Sam Warburton yn arwain Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ar gyfer y twrnament yn Seland Newydd yn lle capten Cymru Matthew Rees sydd wedi derbyn llawdriniaeth i'w wddf yn yr wythnos diwethaf.
Dyma fydd pedwerydd Cwpan y Byd i Stephen Jones ac mae'n gobeithio torri'r record am y nifer mwyaf o ymddangosiadau rhyngwladol. Mae'r Scarlets wedi cyfrannu saith chwaraewyr i'r garfan ynghyd a saith o'r Gweilch, pump o'r Dreigiau, chwech o'r Gleision a'r gweddill o glybiau yn Lloegr a Ffrainc.
Dywedodd Nigel Davies: "Ry'n ni'n falch iawn dros ein chwaraewyr ac ry'n ni'n eu llongyfarch hwy ar yr anrhydedd yma. Fe fydd yn brofiad gwych i nifer o'r chwaraewyr ifanc ac rwy'n hynod o falch bod Ken wedi derbyn cyfle ar ol yr ymdrech y mae wedi ei wneud i ddychwelyd o'i anaf.
"Hoffwn ddweud hefyd i'r rheini na fydd yn teithio i'r twrnament, gan gynnwys Matthew Rees a Morgan Stoddart sy'n dioddef o anafiadau - mae'n anodd a does dim dwywaith y bydd bob un ohonyn nhw'n siomedig ond mae digon o gefnogaeth i gael yma iddyn nhw wrth iddyn nhw wella.
"Rwyf wedi siarad a Josh Turnbull heddiw a does dim dwywaith ei fod wedi cael effaith ar y tim hyffordd; mae'n uchelgeisiol ac mae wedi gweithio'n galed. Ry'n ni'n amlwg yn ei wahodd yn ol i'r Scarlets ac fe fydd yn siwr o rhoi o'i orau, fe ddaw ei gyfle eto gyda Chymru.
"Mae cael cynifer o chwaraewyr yn rhan o'r garfan, a rheini yn gefnwyr, yn dangos y datblygiad sydd wedi digwydd yn y rhanbarth. Mae'n gyffrous iawn i weld chwaraewyr fel Scott Williams yn cael cyfle ar lwyfan mwya'r byd ac fe fydd hyn yn siwr o rhoi hwb i'r rhanbarth yn yr hir dymor.
"Mae lot yn cael ei wneud am y ffaith ein bod ni fel timau yn colli chwaraewyr i'r twrnament ond mae'n wir i bob clwb. Ry'n ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer hyn ers cyfnod ac nid yw'n fwriad i'w ddefnyddio fel esgus yn ystod y tymor. Mae'n gyfle ar ddwy lefel; yn gyntaf ry'n ni'n cael cyfle i gryfhau ein sylfeini ond ry'n ni hefyd yn cael cyfle i ddatblygu talent o'r rhanbarth.
"Yn ail, fe allwn ni gyd fod yn falch o'r Scarlets a fydd yn dychwelyd o Gwpan y Byd yn fwy profiadol ac yn fwy hyderus. Ry'n ni'n dymuno pob llwyddiant iddynt yn Seland Newydd."
Carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011:
Sam Warburton (Gleision), Huw Bennett (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Lloyd Burns (Dreigiau), Luke Charteris (Dreigiau), Bradley Davies (Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Paul James (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch) Dan Lydiate (Drieigau), Craig Mitchell (Exeter Chiefs), Ken Owens (Scarlets), Andy Powell (Sale Sharks), Aled Brew (Dreigiau), Lee Bryne (ASM Clermont Auvergne), Jonathan Davies (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), James Hook (Perpignan), Stephen Jones (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), George North (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne), Rhys Priestland (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Lloyd Williams (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Shane Williams (Gweilch).











