Tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen, mae'r cymuned leol yn bwriadu dod ynghyd i gefnogi teuluoedd rheini a gollodd eu bywydau trwy gynnal twrnament rygbi yng nghlwb rygbi Aberdaugleddau ar ddydd Sul, Awst 28, cic gyntaf 1pm.
Fe fydd y twrnament yn cynnwys chwech tim - Clwb Rygbi Aberdaugleddau, Cwins Doc Penfro, Llangwm, Clwb Rygbi Penfro a Chlwb Rygbi Hwlffordd a chweched tim sydd heb ei gyhoeddi eto.
Un o'r trefnwyr yw cefnwr Clwb Rygbi Aberdaugleddau Lee Riley, 28, mab un Mr Riley.
Dywedodd Simon Evans, ysgrifenydd Clwb Rygbi Aberdaugleddau: "Yn amlwg roedd bob un ohonom yn y clwb yn awyddus iawn i wneud rhywbeth i helpu gyda Lee yn rhan o'n tim ni.
"Ry'n ni'n bwriadu cynnal raffl a chasglu arian ar y diwrnod ac ry'n ni'n gobeithio gweld y gymuned gyfan yn dod ynghyd. Dyma'n ffordd ni o helpu."
Yn dilyn y rygbi fe fydd arddangosfa tan gwyllt i gloi'r digwyddiad.











