Wrth groesawu'r syniad o onestrwydd siaradodd y Scarlets yn agored am gynlluniau'r dyfodol i'r dalwyr tocynnau tymor sydd yn awr yn gyfranddalwyr. Cafwyd gwybodaeth am gynllun busnes pum mlynedd y Scarlets sydd yn anelu i weld y busnes yn perfformio yn well ym mhob agwedd gan gynnwys tocynnau, nwyddau, noddwyr, digwyddiadau, gwerthiant bwyd a diod ac hysbysebu.
Cafwyd enghreifftiau o'r arwyddion positif sydd i'w gweld ym Mharc y Scarlets yn barod:
• Mae busnes digwyddiadau'r Scarlets wedi cynyddu o £250,000 yn barod yn y flwyddyn ariannol diwethaf
• Mae gwerthiant tocynnau tymor wedi cynyddu o 17%
• Ar ol mis o'r flwyddyn ariannol newydd mae'r Scarlets wedi gweld cynnydd o £76 mil ar docynnau tymor a £50 mil ar gyllid nawdd
• Mae 752 o ddalwyr tocynnau tymor newydd wedi ymuno a theulu'r Scarlets ar gyfer tymor 2011-12
Mewn asesiad realistig o'r gwaith sydd i'w wneud, dywedodd y Prif Weithredwr mark Davies y byddai gweld gwelliant yn sefyllfa ariannol y rhanbarth yn goygu gallu gweithio heb golled erbyn 2013.
Dywedodd: "Ry'n ni am weld gwelliannau ym mhob agwedd o'r busnes. Dau glwb yn y DU sydd yn gweithredu heb golled, Teigrod Caerlyr a Northampton Saints ac ry'n ni'n gobeithio ymuno a nhw erbyn 2013.
"Mae'n rhaid i ni ehangu ein platfform buddsoddi a denu buddsoddiad newydd i galon ac enaid cenedl rygbi. "
Un o'r cynlluniau yw cynllun llysgennad newydd y Scarlets a fydd yn cael ei lansio yn Llundain ar y 6ed o Fedi. Fe fydd hwn yn rhoi cyfle ehangach i fuddsoddwyr posib i gyfrannu i'r Scarlets a chefnogi talent ifanc y rhanbarth trwy ysgoloriaethau ac ati.
Dywedodd Prif weithredwr y Scarlets bod y rhanbarth a'r miloedd o gefnogwyr yn ddyledus i'r Cyfarwyddwyr Cyllidol Huw Evans, Philip Davies, Glan Wise a Tim Griffiths sydd wedi buddsoddi £15.5miliwm o bunnoedd i'r busnes ac i'r stadiwm newydd sydd yn eiddo i Cyngor Sir Gar.
Ychwanegodd Davies: "Fe ddylai ein Cyfarwyddwyr Cyllidol dderbyn diolch enfawr am eu cefnogaeth a'i hymrwymiad i'r clwb yr y'n ni gyd yn rhan ohono heddiw."
Dywedodd y Cadeirydd Newydd Nigel Short fod yna gwir awydd go iawn i wella'r busnes a'i fod yn llawn ymrwymedig i sicrhau fod y busnes yn llwyddiant: "Nid wyf wedi arfer a bod yn rhan o fusnesau sydd ddim yn llwyddiannus ac mae'n rhaid i ni weithio'n ffordd yn ol i frig rygbi Ewropeaidd trwy fod ar flaen y gad nid wrth ddilyn pawb arall.
"Mae rygbi yn fwy na chwaraeon, i'r Scarlets mae'n angerdd ac mae gennym syniadau clir. Nid ydym yn gallu addo gwario arian sydd ddim ar gael i ni ond mae yna awydd go iawn yma i lwyddo.
"Mae dyfodol disglair o'n blaenau, stadiwm arbennig, tim reoli awyddus a rhaglen ddatblygu chwaraewyr gorau'r wlad - gyda rhai o dalent gorau'r dyfodol hefyd
"Fe fyddwn ni'n siwr o symud y busnes ymlaen achos hwn yw calon ac enaid cenedl rygbi."











