Dywedodd Josh Turnbull: "Roedd yn amlwg yn siomedig i golli mas ar y cyfle i fynd i Seland Newydd, mae'n anrhydedd mawr ac yn rhywbeth y mae pob chwaraewr yn gobeithio llwyddo gwneud - rwy'n dal i fod yn ifanc ac mae digon o amser o fy mlaen yn fy ngyrfa.
"Rwyf wedi gweithio'n galed iawn yng ngwersyll hyfforddi Cymru, mae wedi bod yn brofiad arbennig. Mae cyfleoedd yn dal i fodoli - pwy a wyr beth fydd yn digwydd yn Seland Newydd.
"Rwyf yn teimlo'n gret ac yn awyddus iawn i ddangos hynny. Mae'n wych i fod yn ol ym Mharc y Scarlets - mae'r bois wedi gwneud yn dda yn y gemau cyntaf, mae'r lle'n llawn egni ac mae yna awyrgylch bositif iawn yma.
"Rwy'n falch iawn o'r cyfle i wisgo crys y Scarlets dros y penwythnos yn erbyn tim corfforol iawn Caerwysg."
Mae'r prop ifanc a gynrychiolodd Cymru dan 20, Rhodri Jones, yn cael cyfle yn y pac gyda'r profiadol Iestyn Thomas yn symud i'r fainc gyda Aaron Shingler yn dod i mewn i'r ail reng.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies: "Mae Caerwysg yn cyflwyno her corfforol arall a dyma fydd ein cyfle olaf i baratoi ar gyfer gem agoriadol y tymor yn erbyn Aironi.
"Roedd yn berfformiad da yn erbyn Clermont, roedd y tim yn gystadleuol. Camgymeriad ar ein rhan ni arweiniodd at gais cyntaf Clermont.
"Ein ffocws ni yn mynd i mewn i'r gem yw i sicrhau ein bod ni'n ddigon corfforol. Mae'r bois yn ymwybodol iawn bod prawf mawr o'u blaenau dros y penwythnos.
"Fe fyddai wedi bod yn ddigon rhwydd i ni adael chwaraewyr mwy profiadol ar y cae ond nid y canlyniad yn unig oedd yn bwysig. Roedd yn bwysig i ni fod yn gystadleuol ac yn bwysig iawn i rhoi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc cyn y tymor newydd.
"Roedd digon o bethau positif yn ein gem ac roeddem ni'n effeithiol iawn heb y bel hefyd.
Ychwanegodd Davies: "Mae'r gemau yma yn bwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer y tymor newydd. Mae prawf mawr o'n blaenau."
Fe fydd y Scarlets yn wynebu Aironi yn ystod penwythnos agoriadol y tymor ym Mharc y Scarlets dydd Sul 4ydd Medi, cic gyntaf 4pm.
Tim y Scarlets i wynebu Caerwysg, Sadwrn 27ain Awst, cic gyntaf 3pm.
15 Daniel Evans, 14 Lee Williams, 13 Nick Reynolds, 12 Aled Thomas, 11 Andy Fenby, 10 Dan Newton, 9 Rhodri Williams, 1 Rhodri Jones, 2 Emyr Phillips, 3 Peter Edwards, 4 Aaron Shingler, 5 Dominic Day, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards (capt) 8 Ben Morgan.
Eilyddion: Justin James, Rhodri Gomer-Davies, Adam Warren, Lee Rees, Rhys Jones, Iestyn Thomas, Kirby Myhill, Phil John, Simon Gardiner, Lou Reed, Damian Welch, Craig Price, Richie Pugh.
Anafiadau: Nid yw Rob McCusker, Jordan Williams a Rhys Thomas ar gael oherwydd anafiadau.











