Gyda dau fewnwr ifanc y Scarlets, Gareth Davies ac Aled Davies, yn absennol oherwydd anafiadau a Tavis Knoyle ar ddyletswydd rhyngwladol yng ngharfan Cymru yn y Cwpan Byd mae'r chwaraewr newydd yn ychwanegiad pwysig cyn dechrau'r tymor.
Mae'n ymuno, yn y lle cyntaf, ar gytundeb tymor byr gyda'r opsiwn o ymestyn ei gyfnod gyda'r rhanbarth. Dyma'i gytundeb cyntaf yn rygbi o'r lefel uchaf yn Ewrop ac fe gyrhaeddodd Tipuna yn Llanelli am y tro cyntaf heddiw.
Mae Tipuna yn adnabod y cyn Scarlet Regan King (sydd gyda Clermont erbyn hyn) a Deacon manu sydd wedi chwarae dros Maori's Seland Newydd. Dywedodd: "Mae pawb yn gwybod beth yw ystyr rygbi i'r Scarlets a'r cefnogwyr ac mae'n rhwydd gweld yr elfen gymunedol yma - mae'n debyg iawn i adref.
"Rwy'n edrych ymlaen i'r tymor, mae'n brofiad newydd i mi ac mae'n braf cael dechrau newydd. Rwy'n edrych ymlaen i gael cyfle i chwarae yn yr Eidal, Iwerddon a Ffrainc ac rwy'n gobeithio cael y cyfle i weld hen ffrindiau sydd wedi ymgartrefu yn Ewrop erbyn hyn."
Cred Tipuna y bydd fordd o chwarae'r Scarlets yn gweddu i'w ffordd ef o chwarae. Dywedodd: "Mae chwarae rygbi saith bob ochr i Seland Newydd yn waith caled - maent yn credu'n gryf mewn ffitrwydd a hyfforddi. Rwy'n hoff iawn o gem cyflym - mae gennyf gem gicio cryf hefyd."
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae ychwanegu chwaraewr profiadol fel Ruki i'n carfan ni yn holl bwysig i rhoi hwb i'r garfan ar hyn o bryd. Mae gennym broblem anafiadau yn safle'r mewnwr ar hyn o bryd ac mae'n bwysig gweld y chwaraewyr ifanc yma'n dychwelyd i'r gem yn holliach.
"Ry'n ni'n gefnogol iawn o ddatblygiad ein chwaraewyr ac fe fydd Ruki yn siwr o gynorthwyo gem y chwaraewyr ifanc yn yn enwedig chwaraewyr fel Aled Davies, Rhodri Williams a Gareth Davies."
Aeth Davies ymlaen i ddweud bod y mewnwr 18 oed, Rhodri Williams wedi dangos talent arbennig yn ystod y sesiynau hyfforddi cynnar a'r ddwy gem gyfeillgar.
Dywedodd Davies: "Mae Ruki yn chwaraewr cryf ac mae'n eitha lleisiol hefyd a dyna'n union sydd angen i rhoi hwb i linell gefn gymharol ifanc.
"Fe fydd ei ffordd o chwarae yn gweddu i'n gem ni ac mae ganddo'r talent i chwarae yn safle'r maswr hefyd. "
Ychwanegodd Davies y byddai'r Scarlets yn gobeithio ychwanegu nifer o chwaraewyr Cymraeg ar gytundebau datblygu dros yr wythnosau nesaf - yn dilyn perfformiadai da yn y gemau cyfeillgar.











