Roedd y Scarlets yn hafal ar 6 yr un hyd nes i'r tim cartref sgori dwy gais ym munudau olaf y gem ac nid oedd cais a throsiad gan yr eilydd Rhyd Jones yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth.
Er hyn, fe fydd Nigel Davies yn gallu cymryd pethau positif o'r gem gan gynnwys perfformiadau da gan Josh Turnbull, Andy Fenby, Dan Evans, Emyr Phillips ac Aaron Shingler.
Gyda'r Scarlets yn rhoi cyfle i'r 12 eilydd, collwyd ychydig o siap yn y munudau olaf. Y sgor terfynol oedd 16 - 13.
Dangosodd yr eilydd ganolwr Bryan Rennie gryfder da i sgori i ddod a'r sgor i 16-6 ond tarrodd y Scarlets yn ol gyda chais gan yr eilydd Rhys Jones ar ol gwaith da gan Rhodri Gomer Davies.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets ei fod yn ddigon ples ar y cyfan gyda nifer o'r agweddau yn y gem yn erbyn tim sydd wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth dda yn y gemau cyfeillgar.
Dywedodd Nigel Davies: "Roedd yn gem corfforol anodd ond yn brawf da i ni cyn ddechrau'r tymor newydd wythnos nesaf.
"Fe wnaeth y bois yn dda i gadw yn y gem; roedd yn beth da i weld y tim yn amddiffyn mor dda hefyd.
"Fe wnaeth y blaenwyr yn dda heb rai o'n chwaraewyr mwyaf profiadol fel Iestyn (Thomas) a Rhys (Thomas) ac roedd nifer o chwaraewyr ifanc ar y cae felly nid wyf wedi siomi ar y cyfan."
Scarlets v Aironi, Sul 4ydd Medi 2011, cic gyntaf 1600.
Dewch i Barc y Scarlets i gefnogi'r Scarlets yng ngem agoriadol y tymor!











