Cefndir: Llynedd, fe gododd Arwyn Davies, gyda help nifer o ffrindiau yn Nyffryn Aeron £8000 tuag at elusen Ymddiriedolaeth yr Ysgyfaint yng Nghymru a Chlwb Ffermwyr Ifanc Felinfach trwy daith gerdded o Lambed i Aberaeron. Trefnwyd 'Anadl Iach trwy'r Dyffryn' er cof am tad Arwyn, Gareth Davies a fu farw yn gynharach yn 2010 yn dilyn afiechyd yr ysgyfaint.
Y Criw: Dafydd Jones, Arwyn Davies, Euryn Madoc-Jones, Aled Rees, Huw Evans a Craig Jones.Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol, dau athro, boi IT, boi Marchnata a Huw Cei, sy'n gwerthu cwrw!!
I gefnogi'r achos ewch i www.charitygiving.co.uk/iompcymru











