Fe fydd y tymor newydd yn croesawu hyd at 800 o ddalwyr tocynnau tymor newydd sydd wedi ymuno a'r teulu ar gyfer tymor 2011/12 gyda chanran adnewyddu wedi cynyddu hyd at 21% ar y tymor diwethaf.
Mae prisiau diwrnod gem wedi eu rhyddhau gan Swyddfa Docynnau'r Scarlets wythnos yma gyda phris oedolyn yn 322 y gem - felly os ry'ch chi'n mynychu Parc y Scarlets yn aml fe allwch arbed hyd at 20% ar brisiau diwrnod gem.
Ynghyd a derbyn gwerth £100 o fudd-daliadau fel daliwr tocyn tymor, does dim cynnig gwell i'w gael!
Dywedodd George Rashbook, Rheolwr Cyffredinol Marchnata'r Scarlets: "Mae'r ymateb wedi bod yn wych i'r amrywiaeth o becynnau sydd ar gael ac mae'n dal i fod digon o amser i chi ymuno a'r teulu cyn i'r antur ddechrau dros y penwythnos.
"Mae digon o gyffro ar y gweill wrth i ni baratoi iddathlu ein 5,000fed gem ar y 24ain Medi a chofio am treftadaeth ein clwb ac edrych ymlaen i'r talent arbennig sy'n datblygu yn y tim."
Mae tocynnau teulu newydd ar gael hefyd yn Stand y Gogledd gyferbyn a thy clwb mwyaf y byd - Pentref Cefnogwyr Canolfan Delme Thomas, lle mae oedolion a phlant yn gallu mwynhau adloniant am ddwy awr cyn gem.
Ar wahan i'r prisiau arbennig peidiwch anghofio eich bod chi'n gallu mwynhau'r canlynol hefyd wrth ymuno a Chalon ac Enaid Cenedl Rygbi.
- Defnydd o'r clwb yn rhad ac am ddim tu allan i ddiwrnodau gem
- Arian oddi ar teithio oddi cartref, nwyddau yn y siop a mwy!
- Taleb gwerth £50 i'w ddefnyddio yn siop wrth gyflwyno ffrind
- Mae pob daliwr tocyn tymor yn gallu prynu tocynnau Clwb Rygbi Llanelli am hanner y pris - £5 yn unig i oedolion, £2.50 consesiwn a £1.50 i blant 11-18 mlwydd oed.
- Plant dan 11 yn rhad ac am ddim!
Am fanylion llawn am docynnau tymor y Scarlets cliciwch ar fotwm tocynnau tymor ar hafan y wefan neu cysylltwch a'r Swyddfa docynnau ar 0871 871 8088.
Fe fydd y Scarlets yn croesawu Aironi i Barc y Scarlets prynhawn Sul 4ydd Medi, cic gyntaf 4pm.











