Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies wedi enwi Gareth Maule fel is-gapten a Iestyn Thomas fel capten yn absenoldeb Rees a Thomas.
Dywedodd Nigel Davies: "Mae Matthew yn arwain trwy esiampl ac mae'n broffesiynol ym mhopeth y mae'n ei wneud ac mae wedi profi hyn wrth arwain y Scarlets a Chymru. Mae ganddo agwedd bositif ac mae'n gosod safonau uchel iawn i'w hun. Mae'r chwaraewyr eraill yn llawn parch ato hefyd. Mae'n beth da i ni y bydd yn ol gyda ni ac yn gallu rannu ei fewnbwn gyda'r chwaraewyr egniol newydd.
"Mae Iestyn a Gareth yn meddu ar holl agweddau'r Scarlets ac mae'r ddau wedi dangos eu gallu ar ac oddi ar y cae yn ystod y tymor diwethaf. Mae'r ddau wedi dangos ymrwymiad yn eu perfformiadau unigol yn ogystal a chyfrannu i'r grwp oddi ar y cae.
"Mae Gareth yn chwaraewr deallus sydd wedi magu hyder ers ymuno a , mae ganddo lot i'w gyfrannu i'r awyrgyclh ac mae'n unigolyn da i gael yn y grwp. Mae wedi datblygu'n gyflym ac fe all fod o gymorth gyda'r chwaraewyr ifanc.
"Mae gan Iestyn cyfoeth o brofiad yng nghrys y Scarlets ac fe fydd yn hanfodol i ni sicrhau dechrau cryf i'n tymor."
Dywedodd Matthew Rees, sydd yn gwella o llawdriniaeth i'w wddf a dderbyniodd bythefnos yn ol, ei fod yn "anrhydedd" i arwain y Scarlets unwaith eto - gan ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'r rhanbarth yn fuan. Dywedodd Rees ei fod wedi bod yn rhwystredig iawn idddo ar lefel bersonol i golli'r cyfle i deithio i Gwpan y Byd ond ei fod yn dymuno pob hwyl i'w gyd-chwaraewyr yn Seland Newydd wrth iddynt adael heddiw (Mercher) am y twrnament.
Dywedodd: "Mae'n amlwg wedi bod yn rhwystredig iawn ac yn siom mawr i mi orfod colli'r gystadleuaeth ac mae'n anodd i ddod i delerau a hynny - ond realiti'r peth yw nad oedd opsiwn arall ac rwy'n falch erbyn hyn fy mod wedi derbyn y llawdriniaeth. Roeddwn i'n gallu teimlo'r gwahaniaeth yn syth, roedd y poen wedi diflannu bron a bod yn gyfan gwbwl ac mae'r tim meddygol a'r llawfeddyg yn bles iawn gyda'r canlyniadau."
Mae disgwyl y bydd Rees yn absennol am 10-12 wythnos gyda'r bwriad o ddychwelyd ym mis Hydref ond ychwanegodd y bydd yn ceisio gwneud gymaint a phosib ym Mharc y Scarlets ar ddechrau'r tymor.
Dywedodd: "Mae'n arhydedd mawr i mi fy mod yn arwain y Scarlets eto tymor nesaf. Mae'n beth da i mi gael ffocws iawn ym Mharcy Scarlets, rwyf yn awyddus iawn i ddod yn ol yn holliach ac rwy'n barod am y tymor nesaf yn feddyliol. Fy athroniaeth i, naill ai wrth arwain Cymru neu'r Scarlets, yw i arwain trwy esiampl ac i weithio yr un mor galed yr wyf yn disgwyl gan fy nghyd-chwaraewyr.
"Gwelwyd gwelliant sylweddol tymor diwethaf ac roeddem yn agos iawn i gyrraedd y rownd ail gyfle. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar y canlyniadau yma, mae mwy o ddyfnder yn y garfan erbyn hyn gyda chwaraewyr fel Josh (Turnbull) a Rob (McCusker) yn dychwelyd o garfan Cymru, ynghyd a Ben Morgan ac Aaron Shingler yn datblygu fel chwaraewyr da. Fe fydd Emyr Phillips yn derbyn cyfle i berfformio hefyd."
Mae Gareth Maule, sydd wedi arwain y Scarlets yn barod yn ystod y tymor nesaf, wedi creu argraff ar y tim hyfforddi gyda'i agwedd aeddfed ar ac oddi ar y cae ers ymuno a'r Scarlets o'r Dreigiau dwy flynedd yn ol.
Dywedodd y canolwr talentog, sy'n gobeithio dychwelyd i'r cae ym mis Medi ar ol derbyn llawdriniaeth i'w ysgwydd dros yr haf: "Mae hwn yn arhydedd mawr i mi, rwyf mor falch o gael y cyfle i arwain y Scarlets tymor nesaf - mae'n dweud cyfrolau am y ffordd y mae'r Scarlets wedi buddsoddi yn y chwaraewyr ifanc ar ac oddi ar y cae.
"Mae'n gyfle gwych i mi fedru gweithio ar y cyd a dau Scarlet profiadol fel Iestyn Thomas a Matthew Rees. Mae'r ddau yn dod a phrofiad i'r grwp ac rwyf innau'n edrych ymlaen i ddychwelyd i'r cae a chyfrannu i berfformiadau'r Scarlets yn ystod y tymor."
Dywedodd Iestyn Thomas, a fydd yn dathlu blwyddyn dysteb yn ystod 2011/2012: "Mae'n anrhydedd fy mod yn cael y cyfle i arwain y tim tra bod Matthew yn absennol ac fe fyddaf yn ffocysu ar wneud y gwaith gorau gallaf. Mae'n rhaid i ni gael dechrau da i'r tymor, mae'r cyfnod cynnar wedi bod yn bositif iawn ac mae'n rhaid i ni ddangos hyn gyda pherfformiadau mawr ar ddechrau'r tymor ac yn erbyn Aironi penwythnos nesaf."











