Roedd chwaraewyr y Scarlets ar flaen y gad unwaith eto heddiw ac fe lwyddodd y pump ohonynt i sgori pwyntiau yn y gem.
Profodd y canolwr ifanc Williams ei fod yn llawn haeddianol o'i le yn y tim wrth groesi am ei bedwerydd cais mewn dwy gem.
Troswyd y naw cais gan Rhys Priestland a Stephen Jones, pump trosiad i Priestland a phedair i Jones, a enillodd ei 102 gap heddiw.
Parhau i ddominyddu wnaeth Gymru ar ol yr hanner gyda phump cais arall. Gwelwyd chwarae ymosodol gan Gymru ac roedd Priestland yn allweddol yn nwy o'r ceisiau ynghyd a North oedd yn barod iawn i gynorthwyo Roberts i'r linell gais yn hytrach na bod yn hunanol.
Daeth ceisiau hefyd i Lloyd Burns, Leigh Halfpenny, Lloyd Williams a chanolwr y Scarlets Jonathan Davies yn dangos pendantrwydd ar ddiwedd y gem i sicrhau'r nawfed cais.
Roedd sgrym Cymru yn gryf trwy gydol y gem ac fe wnaeth Priestland waith arbennig yn reoli'r chwarae tan i Jones gymryd ei le yn hwyrach yn y gem.
Gwelwyd perfformiadau da gan y capten Warburton a'i gyfeillion yn y reng-ol Ryan Jones a Toby Faletau tra bod y canolwyr Roberts a Williams yn achosi problemau mawr i Fiji.
Llwyddodd North i brofi unwaith eto ei fod yn dalent arbennig gyda rhedeg corfforol a sgiliau arbennig.
Sgoriwyd 55% o bwyntiau Cymru gan y Scarlets Scott Williams, George North, Jonathan Davies, Rhys Priestland a Stephen Jones wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth dros Fiji a'i lle yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Fe fydd Cymru yn mynd ymlaen i wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn 8fed Hydref os fydd Iwerddon yn gallu sicrhau buddugoliaeth neu gem gyfartal yn erbyn yr Eidal y bore yma.
CYMRU: Lee Byrne; George North; Scott Williams, Jamie Roberts; Leigh Halfpenny; Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Huw Bennett, Adam Jones, Bradley Davies, Luke Charteris, Ryan Jones, Sam Warburton (c), Toby Faletau. Eilyddion: Lloyd Burns (Bennett, 36), Paul James (Adam Jones, 58), Alun Wyn Jones (Davies, 40), Andy Powell (Faletau, 53), Lloyd Williams (Phillips, 54), Stephen Jones (Priestland, 58), Jonathan Davies (Roberts, 64).











