Mae'r tim wedi datgan eu bod yn bwriadu parhau i frwydro ar ol gem agos arall - tro hwn yn erbyn tim corfforol Benetton Treviso sy'n dangos eu bod yn awyddus iawn i ddatblygu yn y gynghrair y tymor hwn.
Dywedodd Pennaeth Rygbi'r Scarlets, Nigel Davies: "Does dim dwywaith bod y bois wedi rhoi pob ymdrech i'r perfformiad hwn. Roeddwn i'n bles iawn gyda'r ffordd wnaethon nhw barhau i frwydro.
"Roedd yn gem agos iawn gyda dwy gamgymeriad yn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddau dim. Llwyddodd Brendan Williams i gymryd mantais o'r camgymeriadau a chynorthwyo treviso i'r fuddugoliaeth.
"Aeth y sgrym yn dda unwaith eto ac roedd un o'r ceisiau yn agos iawn, er i'r dyfarnwr ddatgan nad oedd yn gais.
"Roeddem ni yn y gem tan y funud olaf ac fe welwyd ymdrech arbennig gan bob un o'r chwaraewyr ar y cae.
"Ry'n ni'n rhwystredig iawn fel grwp yn amlwg ond mae yna agweddau positif iawn i ni weithio gyda nhw.
"Ry'n ni'n awyddus iawn nawr i baratoi yn dda ar gyfer ein gem nesa, yn erbyn Caeredin nos Wener ac ry'n ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y fuddugoliaeth."











