Mae Parc y Scarlets yn paratoi ar gyfer noson brysur arall yn dilyn dathliad arbennig yn erbyn Leinster bythefnos yn ol wrth i'r rhanbarth chwarae ei 5,000fed gem.
Gweylwyd torf mwyaf y gynghrair hyd yn hyn ymysg rhanbarthau Cymru (8,823) wrth i'r Scarlets groesawu Leinster. Daeth 24 o 49 o glybiau'r rhanbarth i ymuno yn y dathliad ac roedd 37 o dimau unigol yma ar gyfer gorymdaith Adran Gymunedol y Scarlets cyn y gem.
Mae nos Wener yn addo bod yn ddathliad go iawn arall gyda llond lle o weithgareddau i'r teulu oll. Fe fydd Pentref Cefnogwyr Daioni ar agor o 5pm ac fe fydd gweithgareddau ac adloniant amrywiol yno i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd gan gynnwys perfformiad a sesiwn Ddrymio Affricanaidd gan y perfformiwr Amas.
Fe fyddwn ni hefyd yn croesawu Ysgol Gyfun Bryngwyn ag Ysgolion Bryngwyn, Ysgolion Bryn, Brynteg, Dafen, Y Felin, Hendy, Llangennech, Penygaer, Hen Heol a Dyffryn y Swistir. Yn dilyn llwyddiant prosiect Ysgol Bryngwyn, mewn partneriaeth a'r Scarlets, fe fyddwn ni'n cynnal Her Rygbi Tag i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd 2011.
Parhau y bydd y dathlu yn y stadiwm cyn y gic gyntaf fe fydd Tenuto Brass yn arwain y canu cyn i'r Scarlets a Chaeredin ddod i'r cae.
Mae tocynnau'n dal ar gael o Swyddfa docynnau'r Scarlets wrth ffonio 0871 871 8088 neu ar y we www.scarlets.co.uk
Scarlets v Caeredin, Datliad Cwpan Rygbi'r Byd ym Mharc y Scarlets, Gwener 7fed Hydref, CG7.05pm











