Daw canolwr y Scarlets Jon Davies yn ol i bartneri Jamie Roberts, gyda Scott Williams yn symud i'r fainc.
Mae Rhys Priestland wedi ei wobrwyo am ei waith caled a pherfformiadau cryf i gymryd yr awennau yn safle'r maswr.
Ymysg y blaenwyr y mae Dan Lydiate yn dychwelyd o anaf i'w bigwrn gan gymryd lle Ryan Jones, sy'n symud i'r fainc.
Mae'r newid olaf yn yr ail reng gyda Alun Wyn Jones yn symud yn ol i'r tim gyda Bradley Davies ar y fainc.
"Roedd hwn yn ddewis anodd i ni, fe aethon ni trwy pob dewis posib," meddai hyfforddwr Cymru Warren Gatland.
"Mae e'n sefyllfa perffaith mewn gwirionedd pan mae'n anodd ffeindio lle i bob chwaraewr yn y garfan, yn hytrach na cheisio ychwanegu i'r rhifau.
"Dyma'r tim ry'n ni wedi ei ddewis, dyma'r tim ry'n ni'n wedi ei ddewis a dyma'r bois yn ein barn ni sydd a'r cyfle gorau posib i ennill y gem yn erbyn Iwerddon."
CYMRU: Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Shane Williams, Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Huw Bennett, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Toby Faletau
EILYDDION: Lloyd Burns, Paul James, Bradley Davies, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams











