Llwyddodd y Scarlets i drechu Caeredin ar ddwy achlysur yn ystod y tymor diwethaf, gyda buddugoliaeth hanesyddol ym mis Ionawr ym Murrayfield am y tro cyntaf ers wyth mlynedd. Nid yw Caeredin wedi ennill ym Mharc y Scarlets ers Rhagfyr 2009.
Yn dychwelyd o anafiadau y mae Andy Fenby ar yr asgell yn o gystal a Dominic Day ac Aaron Shingler yn yr ail reng.
Mae Aled Thomas wedi cadw ei le yn rhif 10 yn dilyn perfformiad cadarn yn erbyn Treviso wythnos diwethaf gyda Dan Newton yn gefnwr. Mae'r mewnwr talentog Rhodri Williams yn dechrau ei gem gyntaf i'r rhanbarth ac mae Rhodri Gomer Davies yn dychwelyd o salwch.
Nid yw'r canlynol ar gael oherwydd anafiadau: y capten Iestyn Thomas, prop (straen i'w goes), Nick Reynolds, asgell/canolwr (pigwrn), Lou Reed, ail reng (penglin), Josh Turnbull, reng ol (ysgwydd).
Mae'r rhanbarth wedi derbyn newyddion hefyd bod y capten Matthew Rees wedi dechrau hyfforddi wythnos hon yn dilyn llawdriniaeth i'w wddf. Mae disgwyl iddo ddychwelyd i'r cae chwarae erbyn diwedd y mis.
Yn dychwelyd o Gwpan y Byd y mae capten Fiji Deacon Man (prop), asgellwr yr Alban Sean Lamont a'r chwaraewr newydd Sione Timani. Mae Manu wed derbyn anaf i'w ysgwydd yn ystod y gystaleuaeth a does dim disgwyl iddo ddychwelyd am bythefnos. Mae disgwyl iddynt ddychwelyd i Barc y Scarlets ar yr 17eg Hydref a Sione yn dychwelyd wythnos nesaf 10fed Hydref.
Dywedodd Simon Easterby, hyfforddwr amddiffyn y Scarlets: "Mae wythnos yma wedi bod yn un prysur, ry'n ni wedi newid ein ffocws oherwydd anafiadau ac ati, mae'r chwaraewyr wei ymateb yn dda ac mae wedi bod yn wythnos bositif.
"Ry'n ni'n ymwybodol iawn ein bod ni'n gorfod gwella, ond does dim hyder wedi body ma o gwbwl, ry'n ni wedi canolbwyntio ar wella ein perfformiadau ac os fe allwn llwyddo i wneud hynny fe ddaw y canlyniadau.
"Mae'r gemau diwethaf wedi bod yn rhwystredig iawn. Nid ydym wedi chwarae mor dda a ddylem, mae'r chwaraewyr yn gwybod hefyd eu bod yn gallu ennill y gemau yma."
Mae gem y Scarlets yn dod ar noswyl gem Cymru v Iwerdon yn rownd yr wyth olaf yn Cwpan y Byd ac eglurodd Simon Easterby pa mor bwysig y bydd y profiad i'r chwaraewyr.
Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn wych i weld cyfraniad y Scarlets i garfan Cymru yn y Cwpan Byd yn enwedig y linell gefn gan gynnwys Rhys Priestland, Scott Williams, George North a Jon Davies. Mae'n dangos i'r bois ifanc sydd yn datblygu ar hyn o bryd ei fod yn bosib gyda'r agwedd ac ymrwymiad cywir."
Tim y Scarlets i wynebu Caeredin Gwener 7fed Hydref 2011, cic gyntaf 7.05pm Parc y Scarlets: 15 Dan Newton, 14 Lee Williams, 13 Rhodri Gomer Davies, 12 Gareth Maule (capt), 11 Andy Fenby, 10 Aled Thomas, 9 Rhodri Williams, 1 Phil John, 2 Emyr Phillips, 3 Rhys Thomas, 4 Aaron Shingler 5 Damian Welch, 6 Rob McCusker, 7 Richie Pugh, 8 Ben Morgan.
Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Peter Edwards, 18 Rhodri Jones, 19 Dominic Day, 20 Johnathan Edwards, 21 Ruki Tipuna, 22 Adam Warren, 23 Liam Williams











