Ymatebodd y Scarlets yn dda gan gadw'r bel yn fyw. Er i'r Scarlets roi pwysau ar y Gweilch yr ymwelwyr a gymrodd mantais cyn yr hanner gan ymestyn ei sgor i 10 pwynt ar ol gol gosb gan Price.
Hanner amser: Scarlets 0 - 10 Gweilch
Colli siap wnaeth pethau yn yr ail hanner gyda chwiban y dyfarnwr yn fwyfwy amlwg a'r amodau yn gwneud pethau'n anodd. Yr unig bwyntiau a ddaeth yn yr ail hanner oedd gol gosb gan Price.
Fe frwydrodd y Scarlets ifanc yn galed yn y cwarter olaf, gyda pherfformiad da gan yr wythwr Ryan Morgan, ond gem y Gweilch oedd hi ar y noson.
Sgor terfynol: Scarlets 0 - 13 Gweilch











