Yn gynharach yn yr wythnos, roedd y gred ymysg y chwaraewyr a'r hyfforddwyr bod perfformiad da yn bosib yn amlwg. Mae'r amynedd hwnnw wedi talu ar ei ganfed wrth i'r tim cartref sicrhau buddugolaieth er yr amodau anodd.
Roedd yr awyrgylch yn danbaid wrth i'r tim cartref sgori pedair cais i gasglu'r pwynt bonws, dwy i'r canlwr ifanc Adam Warren.
Daeth y Scarlet lleol, 20 oed o Borth Tywyn, i'r tim yn hwyr yn ystod y sesiwn gynhesu yn dilyn anaf i Gareth Maule. Fe ddangosodd Warren ei gyflymdra gyda chais yr un yn y ddwy hanner. Chwaraeodd Warren i Lanymddyfri y tymor diwethaf gan sgori naw cais mewn 25 ymddangosiad. Roedd yn nhim dan 18 y Scarlets a gafodd ei ddewis yng ngharfan Cymru dan 20 y llynedd.
Ar ei orau hefyd oedd y mewnwr ifanc Rhodri Williams, 18 oed o Abertawe, a berfformiodd yn gryf ar y llwyfan rhanbarthol. Fe gofiwyd hefyd am un o'r mewnwyr gorau i wisgo crys y Scarlets.
Cafodd y dorf ym Mharc y Scarlets gyfle i gofio'r cyn fewnwr Dennis Thomas a fu farw penwythnos diwethaf yn 70 oe. Chwaraeoedd Thomas dros 350 o gemau i'r Scarlets rhwng 1961 a 1969. Roedd y dorf o dros 6,000 yn falch o'r cyfle i gofio am un o fawrion y rhanbarth.
Cafodd Nigel Davies, hyfforddwr y Scarlets, gyfle i longyfarch y chwaraewyr ar ddiwedd y gem, dywedodd: "Roedd yn berfformiad da heno gyda'r sylfeini yn y sgrym i bob pwrpas, roedd hwn yn ffactor bwysig ac fe rhoddodd gyfleoedd i ni adeiladu ar ein perfformaid.
"Mae'r grwp yma wedi bod yn agos iawn at sicrhau canlyniadau ac rwy'n falch drostyn nhw heno. Maent wedi gweithio'n galed ac wedi ymdrechu'n dda i baratoi ar gyfer y gem yma. Mae wedi bod yn rhwystredig iawn i bawb, ond ni wedi pwyllo achos roedd pawb ymysg y grwp yn gwybod bod y canlyniad ar y gorwel.
"Ry'n ni hefyd wedi cael cyfle i rhoi gemau i nifer o'r bois ifanc yn y garfan ac mae hynny'n bwysig iawn i ddatblygiad y rhanbarth. "
Aeth Davies ymlaen i ddweud ei fod yn siom i golli'r capten Gareth Maule, gydag anaf i'w bigwrn, ond bod digon o hyder ganddo yn Adam Warren i gamu i'r bwlch. Mae Warren wedi derbyn cytundeb datblygu gyda'r rhanbarth ar ol ei berfformiadau yn y gemau cyfeillgar ar ddechrau'r tymor.
Dywedodd: "Nid oedd yr anaf i Gareth yn rhwybeth i ni boeni yn ormodol yne i gylch mor hwyr yn ein paratoadau. Ry'n ni wedi rhoi cytundeb datblygu iddo am flwyddyn yn dilyn perfformiadau da yn y gemau ar ddechrau'r tymor. Mae digon o waith ganddo i'w wneud ond mae ganddo ddigon o sgiliau hefyd ac roedd yn wych heno."
Mae Garin Jenkins, sydd wedi dod i'r rhanbarth i gynorthwyo gyda'r gwaith yn y sgrym ym Mharc y scarlets, wedi cael effaith bositif meddai Davies. "Mae'r chwaraewyr wedi ymateb yn bositif iddo. Roeddwn i'n bles gyda pherfformiad Rhys Thomas, mae'n chwarae'n wych ar hyn o bryd."
Parhaodd Davies i son am gemau'r tymor hyd yn hyn gan ddweud bod y fuddugolaieth wedi dod ar yr amser perffaith. "Mae wedi bod yn rhwystredig iawn ar y cyfan, roedd y gemau i gyd yn rhai y dylen ni fod wedi eu hennill - ar wahan i'r gem yn erbyn Munster. Er hynny, mae nifer o chwaraewyr wedi llwyddo i ddatblygu yn y cyfnod yma ac mae hynny wedi bod yn amlwg heno.
"Roedd yn holl bwysig i ni sicrhau buddugoliaeth heno, mae'n golygu ein bod ni'n dal yn y gystadleuaeth."
Dywedodd Davies y byddai Cwpan LV= yn gyfle i'r Scarlets chwarae wynebau newydd ac y byddai'r Scarlets ifanc yn barod am her Teigrod Caerlyr. Fe fydd y Scarlets yn croesawu Teigrod Caerlyr i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 15fed Hydref, cic gyntaf 6pm.











