Fe fydd Cymru yn wynebu Ffrainc yn Auckland yn y rownd cyn derfynol dydd Sadwrn ac mae'r byd wedi mynd yn wyllt am dim Sam Warburton.
Fe fydd Parc y Scarlets yn agor y drysau ar gyfer dathliad Cwpan Rygbi'r Byd ac ry'n ni eisiau'ch gweld chi yn dathlu gyda ni!
Fe fydd Y Clwb ar agor o 8am dydd Sadwrn, 15fed Hydref, felly ymunwch a ni i gefnogi'r bois wrth iddynt obeithio cyrraedd rownd terfynol y gystadleuaeth.
Am £5 yn unig fe allwch chi fwynhau baguette brecwast wrth gyrraedd cyn gwylio'r gem fawr rhwng Cymru a Ffrainc. Fe fydd cyfle i chi glywed barn arwyr Llanelli/Scarlets, Cymru a'r Llewod Phil Bennett a Dafydd Jones hefyd.
Gyda'r Scarlets yn croesawu Teigrod Caerlyr nos Sadwrn does dim eisiau chi feddwl dwywaith am eich trefniadau!
Ymunwch a ni yng nghalon ac enaid cenedl rygbi.
Mae tocynnau ar gael ar gyfer Scarlets v Teigrod Caerlyr yn y Cwpan LV=, cic gyntaf 6pm, ar y we www.scarlets.co.ukneu wrth ffonio 0871 871 8088.











