Mae croeso i chi aros gyda ni ym Mharc y Scarlets trwy'r dydd wrth i ni droi ein sylw at y bel gron wrth i Lerpwl wynebu Manchester United, cic gyntaf 12:45, cyn i ni groesawu Teigrod Caerlyr ar gyfer rownd agoriadol Cwpan LV=.
Ry'n ni'n falch o allu cynnig pecyn lletygarwch am bris arbennig - cyn gem Scarlets v Teigrod Caerlyr - os ydych chi'n ymuno a ni ar gyfer Brecwast Cwpan Rygbi'r Byd. Does dim angen i chi ddychwelyd adre' rhwng y gemau - mwynhewch diwrnod cyfan gyda ni!
Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caerlyr yn rownd agoiradol Cwpan LV= wrth i'r Saeson gyrraedd gyda'r gobaith o sicrhau buddugoliaeth.
Fe fydd Pentref Cefnogwyr Daioni ar agor i bawb o 4pm gyda'ch ffefrynau gan gynnwys y mochyn rhost, bar oedolion, gwyl tag a llawer mwy.
Yn ymuno a ni ddydd Sadwrn y bydd tri o yrrwyr rali gorau Cymru wrth i ni edrych ymlaen i Rali Cymru DU; Jason Pritchard o Lanfair ym Mullat, Sara Williams o Aberhonddu a Shôn Rees o Grymych.
Ymunwch a ni ar gyfer Mabolgampau Parc y Scarlets, drysau'n agor am 8am!
Gwybodaeth gyffreinol:
- Brecwast Cwpan Rygbi'r Byd - ffoniwch y Swyddfa docynnau ar 0871 871 8088
- Pecyn lletygarwch Scarlets v Teigrod Caerlyr - ffoniwch Julie ar 01554 783940 / 07970 601582 neu ebostiwch juliedavid@scarlets.co.uk
- Tocynnau Scarlets v Teigrod Caerlyr - www.scarlets.co.ukneu 0871 871 8088











