Mae Liam Williams o'r Scarlets sydd wedi chwarae pedair gem gystadleuol i'r rhanbarth y tymor hwn yn gweld ochr bositif y gystadleuaeth. Dywedodd Liam: "Mae wedi bod yn dda i ddod mewn y garfan y Scarlets o glwb rygbi Llanelli ac mae hyn wedi rhoi profiad arbennig i fi, rwyf wedi mwynhau'r profiad yn fawr hyd yn hyn.
"Mae gan y Scarlets hyfforddwyr ifanc da fel Mark Jones a Simon Easterby, mae ganddynt brofiad o chwarae ar y lefel uchaf."
"Roedd Mark yn asgellwr cyflym a chryf, rwyf wastad wedi ei edmygu, yn enwedig yn y safle yr wyf innau'n chwarae. Mae wedi bod yn wych i gael y cyfle i ddysgu gan rhywun o'i brofiad ef."
Dywedodd Williams ei fod yn gweld y gystadleuaeth fel llwyfan perffaith i chwaraewyr ifanc - gyda'r Scarlets a'r Gleision yn rhoi cyfle i chwaraewyr llai adnabyddus wythnos diwethaf.
"Mae wastad yn braf i weld chwaraewyr ifanc yn cael y cyfle - mae'r chwaraewyr ifanc i gyd yma yn dalentog iawn ac mae'n neis wedyn cael cyfle."
"Rwyf wedi chwarae gyda ambell un o'r Gleision gyda thim Cymru dan 20 ac mae'n braf cael cyfle i chwarae darbi yng Nghaerdydd."
"Mae yna chwaraewyr ifanc gwych gyda'r Gleision fel Owen Williams a Thomas Young felly rwy'n disgwyl gem anodd yn eu herbyn."
£1 yn unig yw tocynnau plant dan 16 ac mae'n bosib cael tocyn teulu id au oedolyn a dau blentyn am £12.
Dywedodd Dan Fish o'r Gleision: "Rwyf wedi chwarae yn erbyn ambell un o fois y Scarlets ar lefel graddau oed felly fe ddylai fod yn brawf da i'r ddau dim.
"Rwyf wedi cael cyfle gwych i chwarae gyda'r Gleision ac mae'n rhaid cymryd cyfleoedd fel hyn.
"Rwy'n hoff iawn o redeg gyda'r bel felly mae steil o chwarae'r Gleision y tymor hwn yn berffiath i fi."
"Mae wastad yn braf gweld chwaraewyr yn rhedeg gyda'r bel - fe ddylai gem dydd Sul fod yn ddiddorol iawn i'r dorf."
Mae tocynnau ar gael o Stadiwm Dinas Caerdydd, ffonwich 0845 345 1400 neu prynwch ar y we www.cardifflbues.com/tickets. £1 yn unig yw tocynnau plant felly mwynhewch diwrnod i'r teulu oll tra'n cefnogi'r Scarlets ifanc dros y penwythnos!











