Mae ymgyrch Grow a Grav yn gwahodd dynion ar draws Gymru ac ymhellach i dyfu barf trwy gydol mis Tachwedd er cof am Ray Gravell. Fe fydd yr elw i gyd yn mynd at y WRPA ac Ymddiriedolaeth Ray Gravell a Ffrindiau.
Bu farw Ray Gravell yn 2007 yn 56 mlwydd oed ac roedd yn un o fawrion Cymru. Chwaraeodd Grav yn ystod un o gyfnodau gorau rygbi Cymru ac fe chwaraeodd dros Lanelli, Cymru a'r Llewod. Roedd Grav yn enwog fel chwaraewr cryf ac hefyd am ei farf dangoch. Parhau i dyfu wnaeth ei enwogrwydd ar ol iddo rhoi'r gorau i chwarae rygbi wrth iddo ddechrau ar yrfa newydd ym myd action a darlleu. Fel teyrnged i'w lwyddiant ar ac oddi ar y cae, sefydlwyd Ymddiredolaeth Ray Gravell a Ffrindiau i barhau ag angerdd, egni ac ysbryd Grav trwy waith y sefydliad gan gefnogi elusennau lleol oedd yn bwysig iddo.
Sefydlwyd ymddiriedolaeth elusennol y WRPA ym mis Mawrth 2010 i gefnogi chwaraewyr sy'n dioddef o afiechyd, anaf neu caledwch.
Derbyniodd yr ymgyrch gefnogaeth arbennig y llyned gan gefnogwyr rygbi a chwaraewyr o rhanbarthau Cymru. Cynhaliwyd noson 'Grav Off' arbennig ym Mharc y Scarlets i gloi'r ymgyrch.
Mae Grow a Grav eleni yn gobeithio casglu mwy o arian gyda'ch cefnogaeth chi!
Mae reolau Grow a Grav yn syml! Fe ddylai pob dyn eillio ar y 1af o Dachwedd. Fe fydd gyda chi 30 diwrnod i dyfu Grav ac fe fydd croeso i chi eillio'r barf ar ol 12 o'r gloch ar y 30ain. Fe fydd nifer o wobrau arbennig i'r Grav gorau.
I gymryd rhan yn Grow a Grav 2011 mae WRPA yn eich gwahodd i roi £5 i'r ymgyrch. Mae croeso i chi roi ar dudalen Just Giving www.justgiving.com/growagrav2011.
Fe allwch anfon eich arian at:
Grow a Grav, c/o The Welsh Rugby Players Association, 3 Assembly Square, Britannia Quay, Cae Caerdydd, CF10 4PL.
Gwnewch eich sieciau'n ddaladwy i 'WRPA Benevolent Trust.' Fe allwch ein dilyn ar Twitter: @growagrav @theWRPA











