Mae Ffrainc ymysg y tim cryfaf yn nhimau menywod Ewrop felly fe fydd yn gem hynod o ddiddorol i'w wylio. Mae tim Cymru yn cael ei reoli gan Jarmo Matikainen, dywedodd: 'Fe fydd hwn yn brawf go iawn o gymeriad y garfan sydd wedi gwella'n aruthrol dros y flwyddyn diwethaf. Fe fydd Ffrainc yn dod i'r gem fel ffefrynau ond ry'n ni'n gobeithio sicrhau canlyniad.'
Mae tim Cymru yn cael ei ddewis o Brydain gyfan gyda chwaraewyr yn dod o glybiau fel Arsenal, Lerpwl, Everton, Academi Bryste a Chlwb Menywod Dinas Caerdydd. Rhai o'r chwaraewyr i'w gwylio yn y garfan yw Jessica Fishlock, Gwen Harries, y capten Jayne Ludlow a'r asgellwr Helen Bleazard.
Tocynnau yn £3 oedolion a £ i blant dan 16.











