Ni lwyddodd gwrthwynebwyr y Scarlets yng ngrwp B i ennill eu gemau penwythnos diwethaf; casglwyd pwyntiau bonws gan Caerloyw a Newcastle yng ngrwp C a'r harlequins yn cymryd pwynt bonws ar ol sgori pedair cais o'i buddugoliaeth yn erbyn Gwyddelod Llundain. Collodd y Gleision y frwydr yn erbyn Newcastle (33-3) penwythnos diwethaf.
Yn yr 16 gem diwethaf rhwng y ddwy rhanbarth, mae'r Scarlets wedi ennill 10 o'r gemau.
Fe fydd y Scarlets yn rhoi croeso twymgalon i'w chwaraewyr rhyngwladol wythnos nesaf gyda asgellwr yr Alban Sean Lamont yn ol yn barod gyda'r garfan ym Mharc y Scarlets ac yn dychwelyd i wynebu Gleision Caerdydd dydd Sul.
Mae prif hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies wedi dewis chwaraewyr profiadol ar y fainc wrth baratoi ar gyfer y gem fawr yn y gynghrair yn erbyn Ulster ar ddydd Sadwrn 29ain Hydref (cic gyntaf 3pm).
Mae'r reng ol fel ag yr oedd penwythnos diwethaf gyda'r chwaraewyr ifanc a ddangosodd talent arbennig yn cael ail gyfle gan gynnwys Kieran Murphy fel wythwr a Mathew Gilbert yn safle'r blaenasgellwr.
Mae Gareth Davies, o Gastellnewydd Emlyn, yn dychwelyd ar ol anaf. Mae Aled Thomas yn cadw ei le yn safle'r maswr a Sean Lamont yn dod i mewn i'r canol. Fe fydd Lamont yn chwarae ochr yn ochr a'r canolwr ifanc Adam Warren a sgoiodd dwy gais yn ei gem gystadleuol gyntaf i'r rhanbarth.
Dywedodd Nigel Davies: "Roedd yn lwyddiant arbennig i'r chwaraewyr wythnos diwethaf yn erbyn Caerlyr.
"Roeddwn i'n bles iawn a gwaith y chwaraewyr wythnos diwethaf ac fe ddaeth nifer o'n ceisiau o waith amddoffynol da. Roedd pawb yn chwarae am y crys a hwn oedd un o'r perfformaidau gorau i ni weld gan y tim fel cyfanrwydd.
"Mae ennill gemau yn arwain at fomentwm a hyder ymysg y chwaraewyr, mae'n rhaid i ni barhau gyda'r momentwm yma wythnos hon gan sicrhau buddugoliaeth. Mae'r bois i gyd yn ymwybodol bod cystadleuaeth am y crys yma ym Mharc y Scarlets ac mae'r bois yma'n awyddus iawn i gymryd y cyfleoedd wrth iddynt ymddangos."
Tim y Scarlets i wynebu Gleision Caerdydd, Cwpan LV=, 2.30pm Stadiwm Dinas Caerdydd: 15 Daniel Evans, 14 Dale Ford, 13 Adam Warren, 12 Sean Lamont, 11 Liam Williams, 10 Aled Thomas, 9 Gareth Davies, 1 Phil John (capt), 2 Kirby Myhill, 3 Simon Gardiner, 4 Sione Timani 5 Damian Welch 6 Matthew Gilbert, 7 Johnathan Edwards, 8 Kieran Murphy.
Eilyddion: 16 Rhodri Jones, 17 Emyr Phillips, 18 Rhys Thomas, 19 Dominic Day, 20 Richie Pugh, 21 Rhodri Williams, 22 Dan Newton, 23 Lee Rees.











