Denodd yr asgellwr ifanc sylw'r Scarlets yn ystod Cwpan Churchill dros yr haf, ac mae'r chwaraewr 22 mlwydd oed wedi ennill enw da yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd am ei gyflymder a'i ystwythder. Llofnododd Iongi gytundeb hir dymor gyda'r Scarlets wythnos hon ac mae disgwyl iddo gyrraedd Parc y Scarlets o Auckland yn y pythefnos nesaf.
Dywed nifer ei fod yn debyg iawn i'r asgellwr talentog Cymreig Shane Williams, mae'r asgellwr 5' 8" wedi ei ddisgrifio gan ei hyfforddwyr yn Tonga fel un o'r cefnwyr mwyaf talentog a mwyaf cyflym i ddod o'u gwaith rhyngwladol mewn degawd o mwy.
Mae'r cefnwr wedi chwarae yn safle'r cefnwr yn ogystal ag ar yr asgell a chyfnod yn safle 13 hefyd. Mae gan Iongi naw cap - death ei driawd mwyaf diweddar yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Seland Newydd, Canada a Ffrainc ac roedd yn yr un tim a Sione Timani.
Daliodd sylw Nigel Davies yn ei berfformiad gwych yn erbyn yr Unol Daleithiau nol ym mis Mehefin pan sgoriodd peair o bump cais Tonga.
Dywedodd Davies: "Mae e'n gymeriad cyffrous iawn i ni ac fe fydd ei ffordd o chwarae yn gweddu'n berffaith i'r hyn ry'n ni'n ei wneud yma. Fe fydd yn cynnig opsiynau gwahanol i ni."
Ychwanegodd Davies: "Mae'r Scarlets yn browd iawn o'r gwaith ry'n ni wedi ei wneud dros y dwy neu dair blynedd diwethaf wrth fuddsoddi mewn talent lleol - mae hyn wedi bod yn amlwg i bawb ei weld yn y Cwpan Byd.
"Fodd bynnag, mae llwyddiant ein llwybr datblygu a datblygiad y chwaraewyr yma i fod yn rhan o'r cynllun rhyngwladol wedi'n gorfodi i gynllunio'n ofalus.
"Ein gweledigaeth yw i ddatblygu talent lleol, buddsoddi mewn chwaraewyr ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu ar y lefel uchaf gyda chefnogaeth gan y rhanbarth. Ry'n ni'n llwyddo i wneud hyn gyda chefnogaeth ein clybiau bwydo sy'n gweithio'n agos a ni yn ein cynllun datblygu.
"Ry'n ni hefyd yn cydnabod bod angen chwaraewyr ychwanegol o thu hwnt i'r rhanbarth sy'n gallu cyflwyno sgiliau unigryw ac sy'n cynnig profiad hefyd tra bod chwaraewyr yn absennol ar ddyletswyddau rhyngwladol.
"Ry'n ni wedi cadw meddyliau agored ac wedi pwyso a mesur yn ofalus. Ry'n ni'n deall sut mae pethau'n newid cyn ac ar ol Cwpan y Byd hefyd ac ry'n ni wedi sicrhau ein bod ni'n gweithio o fewn ein gallu.
"Ry'n ni'n hapus iawn bod Viliame Iongi yn ymuno a ni - fe fydd yn rhoi dimensiwn newydd i ni. Ynghyd a Sione Timani ry'n ni wedi llwyddo i sicrhau chwaraewyr profiadol mewn ardaloedd penodol a fydd yn ychwanegu i'n ffordd dynamig ac egniol o chwarae - fe fydd hwn yn ei dro yn cael effaith bositif ar y chwaraewyr ifanc yn ein carfan."
Mae Viliame wedi chwarae i Tonga dan 20 a thim Academi'r Brumbies yn Canberra. Mae ei fam yn deillio o Fiji a'i dad o Tonga.
Mae Viliame Iongi wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen i ymuno a'r Scarlets: "Mae'n gyfle gwych i mi. Hwn yw fy nghytundeb proffesiynol cyntaf ac mae'n rhoi cyfle i mi chwarae yn Ewrop.
Aeth ymlaen i ddweud: "Rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o system broffesiynol ac rwy'n barod i roi o fy ngorau. Mae'r Scarlets yn chwarae rygbi da ac rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o'r tim."











