Aeth ymlaen i ddweud: "Ry'n ni'n bles iawn ein bod ni wedi llwyddo i adeiladu a chynyddu'r momentem yn ilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Caeredin, mae Cwpan LV= yn rhan o'n paratoadau ni y tymor hyn, nid yw'n sefyll ar ei ben ei hun. Y prif bwrpas i ni yw adeiladu cysondeb yn ein perfformiadau a chynyddu'r momentwm.
"Rwy'n bles iawn a'r canlyniad, roedd y bois yn gystadleuol iawn. Roedd ychydig yn fwy o brofiad gyda ni ar y cae ac ry'n ni ychydig ymhellach ymlaen yn y broses o roi cyfleoedd i'n chwaraewyr ifanc.
"Mae nifer o'r chwaraewyr yma wedi cymryd rhan yn ein gemau cynghrair hefyd ac felly mae yna gysondeb yn y tim - mae hyn wedi bod o gymorth."
Dywedodd y prif hyfforddwr bod cefnogaeth teithiol y Scarlets wedi bod yn wych a'i fod wedi rhoi hwb go iawn i'r bois ifanc ar y cae.
"Mae gyda ni gefnogwyr anhygoel ym Mharc y Scarlets ac oddi cartref; roedd y canu yn gret ac mae'n rhoi hwb i'r chwaraewyr yn ystod y gem. Mae'n gwneud gwahaniaeth - yn enwedig i'n chwaraewyr llai profiadol ac ry'n ni'n ddiolchgar iawn i bawb am wneud yr ymdrech."
Gyda naw cais o dwy gem, a rheini'n ddi-ateb, dywedodd Davies ei fod yn braf gweld gwaith caled y cae hyfforddi yn talu ar ei ganfed.
Dywedodd: "Mae wedi bod yn braf gweld y ceisiau'n dod yn y ddwy gem diwethaf. Mae ceisiau'n gallu dod o waith amddiffyn a dwyn y bel ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud gwaith amddiffynol arbennig hyd yn hyn y tymor hwn.
"Mae yna lot o waith i'w wneud o hyd ond y peth pwysig yw i gadw'r momentwm i fynd yn ystod y cyfnod nesaf o rygbi."
"Gwelwyd perfformiadau gwych gan ein chwaraewyr ifanc ac mae'r gystadleuaeth ymysg y garfan yn uchel."
Canmolwyd ymdrech ac ysbryd nifer o ser ifanc y Scarlets gan gynnwys Kirby Myhill, Kieran Murphy, Rhori Williams, Liam Williams ac Adam Warren.
"Mae lot o botensial ymysg y chwaraewyr yma ac maent wedi cymry eu cyfleoedd, mae hwn wedi bod yn beth positif i'w weld."
Fe fydd y Scarlets yn edrych ymlaen i wahodd chwaraewyr Cwpan y Byd yn ol i Barc y Scarlets dros y pythefnos nesaf. Mae hyfforddwyr y rhanbarth wedi datgan y bydd y chwaraewyr yn cael eu hasesu'n unigol yn dilyn ymdrechion Cwpan y Byd.
Dywedodd Davies: "Ry'n ni wedi ail drefnu ein sesiynau hyfforddi er mwyn rhoi cyfle i rai o'r chwaraewyr ymuno a ni dydd Iau. Ry'n ni'n aros i weld y chwaraewyr yn unigol cyn gwneud penderfyniadau.
"Mae'n beth da i ni fod gymaint o gystadleuaeth ymysg y chwaraewyr. Ry'n ni eisiau i'r chwaraewyr ddod yn ol gydag awydd i wisgo'r crys.
"Rwy'n disgwyl hwb mawr gan ein chwaraewyr rhyngwladol; ry'n ni wedi eu cefnogi nhw a nhw yw grwp craidd ein carfan."











