Mae Ford, a oedd yn aelod o Academi'r Scarlets, wedi chwarae ar yr asgell ac fel cefnwr i Glwb Rygbi Llanelli ac fe chwaraeodd ei rygbi cynnar gyda chlybiau Trimasaran a Phorth Tywyn cyn ymuno a charfan y Scarlets yn ystod yr haf.
Anafwyd Ford yn gynnar yn yr ail hanner prynhawn Sul ac fe gariwyd ef o'r cae gan staff meddygol. Mae wedi torri ei goes mewn dau le, y tibia a'r fibia, ond ni dderbyniodd llawdriniaeth. Nid yw'n glir eto am ba hyd y bydd yn absennol o'r gem ond fe fydd allan am sawl mis o leiaf.
Dywedodd Mark Jones, cyn asgellwr Cymru ac Hyfforddwr Sgiliau presennol y Scarlets ei fod wedi dechrau setlo gyda'r garfa: "Mae'n siom mawr i Dale, rwyf wir ynsiomedig iawn drosto. Mae wedi gweithio'n galed iawn ac roedd yn dangos pendentrwydd a hyder yn erbyn rhai o'r timau mawr.
"Mae Dale yn gwrando ac mae'n dangos gwir ffocws ar wella ei gem, ry'n ni'n dechrau gweld buddion hyn yn barod. Mae e'n dangos bod buddsoddi mewn chwaraewyr ifanc o'r rhanbarth yn talu ar ei ganfed.
"Fe fydd yn anodd iawn iddo dderbyn yr anaf hwn yn enwedig ar ol dychwelyd o anaf tebyg tymor diwethaf. Pan welais i Dale yn yr ysbyty ar ol y gem roedd yn dweud yr un pethau a wnes i ar ol anafu fy mhenglin am yr ail dro. Roeddwn i'n deall yn iawn sut roedd e'n teimlo, y siom a'r rhwystredigaeth.
"Ond mae e'n chwaraewr dewr, roedd yn dangos y gallu i drechu pobl mewn tacl. Mae ganddo feddwl aeddfed iawn ac fe fydd yn siwr o ddychwelyd o'r anaf ar ol dod dros y sioc. Mae e'n chwaraewr egniol iawn a'r peth pwysig yw mae 20 oed yn unig yw e - mae ganddo ddigon o amser o'i flaen."
Dywedodd Jones bod y tim meddygol ym Mharc y Scarlets wedi gwneud gwaith arbennig gyda Morgan Stoddart ar ol iddo dorri ei goes yn erbyn Lloegr yn Twickenham. Mae disgwyl iddo ddychwelyd yn y Flwyddyn Newydd.
Dywedodd Jones: "Ry'n ni'n lwcus iawn i gael tim meddygol mor brofiadol yma ac mae'r chwaraewyr yn cael y gofal gorau posib. Ry'n ni'n gobeithio'n fawr y bydd datblygiad Stodds a'i agwedd bositif o gymorth i Dale wrth iddo wella."











