Prynwch eich holl anrhegion Dolig mewn un diwrnod, ac o dan un to, wrth i'r rhanbarth baratoi ar gyfer y sêl mwyaf erioed! Fe fydd llond lle o eitemau ar werth felly peidiwch a cholli'r cyfle yma i gael gafael mewn bargen neu ddwy!
Fe fydd Parc y Scarlets hefyd yn llwyfannu ail ddigwyddiad Tan Gwyllt gyda'r X-Factor mewn cydweithrediad a Scarlet FM ar ddydd Sadwrn 5ed Tachwedd.
Mae'r digwyddiad cerddorol a than gwyllt yn addo bod yn noson arbennig i'r teulu oll wrth i John Adams, o Aberdar, berfformio ar yr un llwyfan a Gina G o flaen Stand Castell Howell y De.
Fe fydd y gatiau'n agor am 4pm ar gyfer Tan Gwyllt gyda'r X-Factor ac mae croeso cynnes i bawb o bob oed. Mae tocynnau ar werth o Swyddfa docynnau Parc y Scarlets £5 oedolion, £3 dan 16 a phlant dan 5 yn rhad ac am ddim.
Mae pecynnau lletygarwch ar gael am gyn lleied a £10+taw i oedolion a £5+taw i blant dan 16 (bwyd am ddim i blant dan 5!), am fanylion pellach cysylltwch a Julie ar 01554 783940 neu ebostiwch juliedavid@scarlets.co.uk
Sêl Warws y Scarlets & Tân Gwyllt gyda'r X-Factor, Parc y Scarlets.











