Am 1pm fe allwch ddod i mewn i Bentref Cefnogwyr Daioni a mwynhau prynhawn llawn hwyl i'r teulu oll. Dewch yn eich gwisg ffansi ac efallai byddwch chi'n ddigon lwcus i ennill gwobrau. Fe fydd ein cystadleuaeth gwisg ffansi yn cymryd lle ym Mhentref Cefnogwyr Daioni gyda Tommo yn cyhoeddi enw'r enillydd!
Mae tocynnau ar gyfer Sadwrn Arswydus y Scarlets ar gael o'r Swyddfa docynnau - ffoniwch 0871 871 8088, am wybodaeth lletygarwch cysylltwch ar 01554 783940.
Parc y Scarlets yw'r unig le i wylio Scarlets v Ulster felly peidiwch a cholli mas!
Sadwrn Arswydus y Scarlets, Scarlets v Ulster ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 29ain Hydref CG 3.00pm - croeso i chi ddod mewn gwisg ffansi!











